bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 27
Ezekiel 27
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 28 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2
“Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl Tyrus.
3
Dywed wrth Tyrus, sy'n eistedd wrth borthladdoedd, ac yn ganolfan fasnachol bwysig i weddill y byd: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O Tyrus, rwyt yn brolio mai ti ydy harddwch yn ei berffeithrwydd.
4
Gyda dy ffiniau yng nghanol y moroedd, cest dy lunio fel y llong berffaith —
5
dy fyrddau o goed pinwydd Senir a dy fast o goed cedrwydd Libanus.
6
Dy rwyfau o goed derw Bashan, a dy gorff yn bren cypres o dde Cyprus, wedi ei addurno ag ifori.
7
Dy hwyl o liain main gorau'r Aifft wedi ei brodio'n batrymau, ac yn faner i bawb dy nabod. Y llen dros y dec yn borffor a phiws; defnydd o lannau Elisha.
8
Arweinwyr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr, a dynion medrus Tyrus yn forwyr wrth yr helm.
9
Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrdd yn trwsio unrhyw niwed. Roedd y llongau i gyd a'u criwiau yn galw yn dy borthladdoedd i gyfnewid nwyddau.
10
Roedd dynion o wledydd pell — Persia, Lydia a Libia — yn filwyr yn dy fyddin. Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau; ac yn rhoi i ti enw gwych.
11
“‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith.
12
“‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.
13
Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres.
14
Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod.
15
Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni.
16
Roedd Edom yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi ei frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem.
17
A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a gwm balm.
18
Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar,
19
a casgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd.
20
Roedd Dedan yn cynnig eu carthenni cyfrwy.
21
Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr.
22
Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur.
23
Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd,
24
yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi eu clymu a'u plethu'n dynn.
25
Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd. Roeddet fel llong wedi ei llwytho'n llawn, yng nghanol y moroedd.
26
Ond aeth dy rwyfwyr â ti i ganol storm ar y môr mawr! Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllio yng nghanol y moroedd.
27
“‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr — pawb sydd ar dy fwrdd.
28
Bydd y morwyr yn gweiddi nes i gefn gwlad grynu.
29
Bydd rhwyfwyr a morwyr yn gadael eu llongau i sefyll ar dir sych.
30
Byddan nhw'n galaru'n uchel ac yn crïo'n chwerw; byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau ac yn rholio mewn lludw.
31
Byddan nhw'n siafio eu pennau ac yn gwisgo sachliain. Byddan nhw'n wylo'n chwerw wrth alaru ar dy ôl.
32
Yn nadu canu cân o alar ar dy ôl: “Pwy oedd fel Tyrus, fel tŵr yng nghanol y môr?”
33
Roedd dy nwyddau'n cael eu dadlwytho o'r moroedd, i gwrdd ag angen pobloedd. Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddau yn cyfoethogi brenhinoedd i ben draw'r byd!
34
Ond bellach rwyt yn llong wedi ei dryllio yn gorwedd ar waelod y môr. Mae dy nwyddau a'r criw i gyd wedi suddo a boddi gyda ti.
35
Mae pobl yr arfordir i gyd wedi dychryn yn lân; brenhinoedd yn crynu mewn braw, a'r poen i'w weld ar eu hwynebau.
36
Mae masnachwyr y gwledydd yn chwibanu mewn rhyfeddod arnat. Roedd dy ddiwedd yn erchyll a fydd dim sôn eto amdanat.’”
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48