bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 41
Ezekiel 41
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 42 →
1
Yna dyma'r dyn yn mynd â fi i mewn i gysegr allanol adeilad y deml. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa. Roedden nhw'n dri metr o led.
2
Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led.
3
Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner.
4
Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella'r cysegr allanol. “Dyma'r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i.
5
Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led.
6
Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi eu gosod yn wal y deml ei hun.
7
Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol.
8
Roedd y deml wedi ei hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma'n rhoi sylfaen i'r ystafelloedd ochr.
9
Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml
10
a'r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led.
11
Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i'r lle agored — un yn wynebu'r gogledd a'r llall yn wynebu'r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl.
12
Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd.
13
Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall.
14
Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner.
15
Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt
16
wedi eu panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a'r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu'r trothwy wedi eu panelu o'r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri,
17
ar y wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol ac ar y tu allan a'r tu mewn i'r cysegr mewnol ei hun
18
roedd y cwbl wedi ei addurno gyda ceriwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a ceriwb bob yn ail. Roedd gan bob ceriwb ddau wyneb —
19
wyneb dyn ac wyneb llew. Roedd y rhain wedi eu cerfio dros y deml i gyd.
20
Roedden nhw'n addurno'r cysegr allanol i gyd, o'r llawr i'r darn o wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol.
21
Roedd colofnau sgwâr bob ochr i fynedfa'r cysegr allanol. Yna o flaen y cysegr mewnol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel
22
allor bren. Roedd yn fetr a hanner o uchder ac yn fetr o hyd. Roedd ei gorneli, ei waelod a'i ochrau yn bren. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Dyma'r bwrdd sy'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.”
23
Roedd drysau dwbl i mewn i'r cysegr allanol ac i'r cysegr mewnol,
24
gyda'r drysau'n agor at allan ac i mewn.
25
Roedd ceriwbiaid a choed palmwydd wedi eu cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwch ben y cyntedd y tu allan.
26
Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau'r cyntedd. Roedd canopïau uwch ben ystafelloedd ochr y deml hefyd.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48