bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 1
Numbers 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 2 →
1
Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud,
2
"Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn l eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un.
3
Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
4
Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.
5
Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;
6
o Simeon: Selumiel fab Surisadai;
7
o Jwda: Nahson fab Amminadab;
8
o Issachar: Nethanel fab Suar;
9
o Sabulon: Eliab fab Helon.
10
O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur;
11
o Benjamin: Abidan fab Gideoni;
12
o Dan: Ahieser fab Ammisadai;
13
o Aser: Pagiel fab Ocran;
14
o Gad: Eliasaff fab Reuel;
15
o Nafftali: Ahira fab Enan."
16
Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.
17
Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,
18
ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn l eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.
19
Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20
O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
21
Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
22
O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
23
Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.
24
O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
25
Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.
26
O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
27
Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
28
O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
29
Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
30
O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
31
Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.
32
O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
33
Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant.
34
O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
35
Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant.
36
O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
37
Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant.
38
O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
39
Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
40
O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
41
Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant.
42
O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn l cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
43
Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant.
44
Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tu375? ei hynafiaid.
45
Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn l eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel;
46
y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
47
Ond ni rifwyd y Lefiaid yn l llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel,
48
oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
49
"Paid chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel;
50
ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch.
51
Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl.
52
Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn l eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun.
53
Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid."
54
Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36