bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 11
Numbers 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
1
Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tn yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll.
2
Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tn.
3
Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dn yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.
4
Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, "Pwy a rydd inni gig i'w fwyta?
5
Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg;
6
ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna."
7
Yr oedd y manna fel had coriander, ac o'r un lliw grawnwin.
8
i'r bobl o amgylch i'w gasglu, ac wedi iddynt ei falu mewn melinau, ei guro mewn morter, a'i ferwi mewn crochanau, gwnaent deisennau ohono. Yr oedd ei flas fel petai wedi ei bobi ag olew.
9
Pan ddisgynnai'r gwlith ar y gwersyll gyda'r nos byddai'r manna yn disgyn hefyd.
10
Clywodd Moses y teuluoedd i gyd yn wylo, pob un yn nrws ei babell; enynnodd llid yr ARGLWYDD yn fawr, a bu'n ddrwg gan Moses.
11
Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Pam y gwnaethost dro gwael 'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf?
12
Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, 'Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid'?
13
O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, 'Rho inni gig i'w fwyta.'
14
Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi.
15
Os fel hyn yr wyt am wneud mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni."
16
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Casgla i mi ddeg a thrigain o henuriaid Israel, rhai y gwyddost eu bod yn henuriaid y bobl ac yn swyddogion drostynt, a chymer hwy i babell y cyfarfod, a gwna iddynt sefyll yno gyda thi.
17
Fe ddof finnau i lawr a llefaru wrthyt yno, a chymeraf beth o'r ysbryd sydd arnat ti a'i roi arnynt hwy; byddant hwy gyda thi i gario baich y bobl, rhag iti ei gario dy hunan.
18
Dywed wrth y bobl, 'Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, "Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft." Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta.
19
Byddwch yn ei fwyta nid am un diwrnod, na dau, na phump, na deg, nac ugain,
20
ond am fis cyfan, nes y bydd yn dod allan o'ch ffroenau, a chwithau'n ei gasu; oherwydd yr ydych wedi gwrthod yr ARGLWYDD, sydd yn eich plith, trwy wylo yn ei glyw, a dweud, "Pam y daethom allan o'r Aifft?"'"
21
Ond dywedodd Moses, "Dyma fi yng nghanol chwe chan mil o wu375?r traed, ac eto dywedi, 'Rhof iddynt gig i'w fwyta am fis cyfan!'
22
A leddir defaid a gwartheg er mwyn eu digoni? Neu a fydd holl bysgod y mr, wedi eu casglu ynghyd, yn ddigon ar eu cyfer?"
23
Atebodd yr ARGLWYDD ef, "A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr? Cei weld yn y man a wireddir f'addewid iti ai peidio."
24
Aeth Moses ymaith a mynegi i'r bobl eiriau'r ARGLWYDD; yna casglodd ddeg a thrigain o henuriaid y bobl a'u gosod o amgylch y babell.
25
Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn cwmwl, a llefaru wrtho, a chymerodd yr ARGLWYDD beth o'r ysbryd oedd arno ef a'i roi ar yr henuriaid, y deg a thrigain ohonynt; pan orffwysai'r ysbryd arnynt, byddent yn proffwydo, ond ni wnaent ragor na hynny.
26
Arhosodd dau o'r dynion yn y gwersyll; eu henwau oedd Eldad a Medad, a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwythau. Yr oeddent hwy ymhlith y rhai a gofrestrwyd, ond am nad oedd-ent wedi mynd allan i'r babell, proffwydasant yn y gwersyll.
27
Pan redodd llanc ifanc a mynegi i Moses fod Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll,
28
dywedodd Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses o'i ieuenctid, "Moses, f'arglwydd, rhwystra hwy."
29
Ond dywedodd Moses wrtho, "Ai o'm hachos i yr wyt yn eiddigeddus? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, ac y byddai ef yn rhoi ei ysbryd arnynt!"
30
Yna dychwelodd Moses a henuriaid Israel i'r gwersyll.
31
Anfonodd yr ARGLWYDD wynt a barodd i soflieir ddod o'r mr a disgyn o amgylch y gwersyll; yr oeddent tua dau gufydd uwchlaw wyneb y tir, ac yn ymestyn dros bellter o daith diwrnod o bob tu i'r gwersyll.
32
Cododd y bobl, a chasglu'r soflieir trwy gydol y dydd hwnnw, trwy'r nos, a thrwy'r dydd drannoeth nes bod yr un a gasglodd leiaf wedi casglu deg homer; yna rhannwyd hwy ymhlith ei gilydd o amgylch y gwersyll.
33
Pan oedd y cig rhwng eu dannedd yn barod i'w gnoi, enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl, a thrawodd hwy phla mawr iawn.
34
Felly galwyd y lle hwnnw yn Cibroth-hattaafa, oherwydd yno y claddwyd y bobl oedd chwant arnynt.
35
Yna aethant o Cibroth-hattaafa i Haseroth, ac aros yno.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36