bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 28
Numbers 28
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 29 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, 'Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy dn a'm harogl peraidd.'
3
Dywed wrthynt, 'Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy dn i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd,
4
un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr;
5
ac yn fwydoffrwm: degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu chwarter hin o olew pur.
6
Bydd hwn yn boethoffrwm rheolaidd a ordeiniwyd ar Fynydd Sinai i fod yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dn i'r ARGLWYDD.
7
Yr wyt i dywallt diod gadarn yn ddiodoffrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr, chwarter hin ar gyfer pob oen.
8
Offryma'r oen arall yn yr hwyr yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, fel bwydoffrwm y bore a'i ddiodoffrwm.
9
"'Ar y dydd Saboth: dau oen blwydd di-nam a dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
10
Hwn fydd poethoffrwm y Saboth, sy'n ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
11
"'Ar y cyntaf o bob mis yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD ddau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;
12
hefyd, tair degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob bustach; dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer yr hwrdd;
13
a degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob oen; bydd y poethoffrwm yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dn i'r ARGLWYDD.
14
Bydd hanner hin o win yn ddiodoffrwm ar gyfer bustach, traean hin ar gyfer hwrdd, a chwarter hin ar gyfer oen. Dyna fydd y poethoffrwm bob mis trwy gydol y flwyddyn.
15
Hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD; bydd hwn yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
16
"'Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD.
17
Ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn bydd gu373?yl, ac am saith diwrnod bwyteir bara croyw.
18
Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd; peidiwch gwneud dim gwaith arferol,
19
ond cyflwynwch offrwm trwy dn yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;
20
hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd,
21
a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
22
hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
23
Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.
24
Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
25
Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch gwneud dim gwaith arferol.
26
"'Ar ddydd blaenffrwyth y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod bwydoffrwm newydd i'r ARGLWYDD yn ystod gu373?yl yr Wythnosau, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio gwneud dim gwaith arferol.
27
Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd;
28
hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
29
a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
30
hefyd un bwch gafr, i wneud cymod drosoch.
31
Yr ydych i offrymu'r rhain a'u diodoffrwm yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm. Gofalwch eu bod yn ddi-nam.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36