bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 21
Numbers 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
1
Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion.
2
Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, "Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr."
3
Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.
4
Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Mr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith,
5
a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, "Pam y daethoch ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn."
6
Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt.
7
Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, "Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gwedda ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym." Felly gweddodd Moses ar ran y bobl,
8
a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw."
9
Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.
10
Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,
11
a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn Moab, tua chodiad haul.
12
Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,
13
aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.
14
Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sn am "Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,
15
Arnon a llechweddau'r dyffrynnoedd sy'n ymestyn at safle Ar ac yn gorffwys ar derfyn Moab."
16
Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, "Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi du373?r iddynt."
17
Yna canodd Israel y gn hon: "Tardda, ffynnon! Canwch iddi
18
y ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a agorodd penaethiaid y bobl 'u gwiail a'u ffyn." Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana,
19
ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,
20
ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.
21
Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,
22
"Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed du373?r o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth."
23
Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt.
24
Ond lladdodd yr Israeliaid ef min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.
25
Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.
26
Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.
27
Dyna pam y canodd y beirdd: "Dewch i Hesbon a'i hadeiladu! Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!
28
Oherwydd aeth tn allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sihon, a difa Ar yn Moab a pherchnogion mynydd-dir Arnon.
29
Gwae di, Moab! Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos! Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid, a'i ferched yn gaethion i Sihon brenin yr Amoriaid.
30
Saethasom hwy, a darfu amdanynt o Hesbon hyd Dibon, ac yr ydym wedi eu dymchwel o Noffa hyd Medeba."
31
Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid.
32
Anfonodd Moses rai i ysbo Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno.
33
Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd hwy yn Edrei.
34
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Paid 'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon."
35
Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36