bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 14
Numbers 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 15 →
1
Dechreuodd yr holl gynulliad weiddi'n uchel, a bu'r bobl yn wylo trwy'r noson honno.
2
Yr oedd yr Israeliaid i gyd yn grwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dywedodd y cynulliad wrthynt, "O na buasem wedi marw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch hwn!
3
Pam y mae'r ARGLWYDD yn mynd ni i'r wlad hon lle byddwn yn syrthio trwy fin y cleddyf, a lle bydd ein gwragedd a'n plant yn ysbail? Oni fyddai'n well inni ddychwelyd i'r Aifft?"
4
Dywedasant wrth ei gilydd, "Dewiswn un yn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft."
5
Yna ymgrymodd Moses ac Aaron o flaen holl aelodau cynulliad pobl Israel.
6
Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbo'r wlad, rwygo'u dillad,
7
a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, "Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbo yn wlad dda iawn.
8
Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a ml, a'i rhoi inni.
9
Ond peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch 'u hofni."
10
Tra oedd yr holl Israeliaid yn sn am eu llabyddio, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt ym mhabell y cyfarfod.
11
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Am ba hyd y bydd y bobl hyn yn fy nilorni? Ac am ba hyd y byddant yn gwrthod credu ynof, er yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
12
Trawaf hwy haint a'u gwasgaru, ond fe'th wnaf di'n genedl fwy a chryfach na hwy."
13
Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Oni ddaw'r Eifftiaid i glywed am hyn, gan mai o'u plith hwy y daethost 'r bobl yma allan 'th nerth dy hun?
14
Ac oni ddywedant hwy wrth drigolion y wlad hon? Y maent wedi clywed dy fod di, ARGLWYDD, gyda'r bobl hyn, ac yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl yn aros drostynt, a'th fod yn eu harwain mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dn yn y nos.
15
Yn awr, os lleddi'r bobl hyn ag un ergyd, bydd y cenhedloedd sydd wedi clywed sn amdanat yn dweud,
16
'Lladdodd yr ARGLWYDD y bobl hyn yn yr anialwch am na fedrai ddod hwy i'r wlad y tyngodd lw ei rhoi iddynt.'
17
Felly erfyniaf ar i nerth yr ARGLWYDD gynyddu, fel yr addewaist pan ddywedaist,
18
'Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ac yn llawn o drugaredd, yn maddau drygioni a gwrthryfel; eto, heb adael yr euog yn ddi-gosb, y mae'n cosbi'r plant am droseddau'r tadau hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.'
19
Yn l dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr."
20
Atebodd yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi maddau iddynt, yn l dy ddymuniad;
21
ond yn awr, cyn wired 'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear,
22
ni fydd yr un o'r rhai a welodd fy ngogoniant a'r arwyddion a wneuthum yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond a wrthododd wrando arnaf a'm profi y dengwaith hyn,
23
yn cael gweld y wlad y tyngais ei rhoi i'w hynafiaid; ac ni fydd neb o'r rhai a fu'n fy nilorni yn ei gweld ychwaith.
24
Ond y mae ysbryd gwahanol yn fy ngwas Caleb, ac am iddo fy nilyn yn llwyr, arweiniaf ef i'r wlad y bu eisoes i mewn ynddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu.
25
Yn awr, am fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn, yr ydych i ddychwelyd yfory i'r anialwch a cherdded ar hyd ffordd y Mr Coch."
26
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
27
"Am ba hyd y bydd y cynulliad drygionus hwn yn grwgnach yn f'erbyn? Yr wyf wedi clywed grwgnach pobl Israel yn f'erbyn;
28
felly dywed wrthynt: 'Cyn wired 'm bod yn fyw,' medd yr ARGLWYDD, 'fe wnaf i chwi yr hyn a ddywedasoch yn fy nghlyw:
29
bydd pob un ugain oed a throsodd, a rifwyd yn y cyfrifiad ac sydd wedi grwgnach yn f'erbyn, yn syrthio'n farw yn yr anialwch hwn.
30
Ni chaiff yr un ohonoch ddod i mewn i'r wlad y tyngais lw y byddech yn byw ynddi, heblaw Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.
31
Ond am eich plant, y dywedasoch chwi y byddent yn ysbail, dof hwy i mewn i ddarostwng y wlad yr ydych chwi wedi ei dirmygu,
32
tra byddwch chwi'n syrthio'n farw yn yr anialwch.
33
Bydd eich plant yn crwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd ac yn dioddef am eich anffyddlondeb chwi, nes i'r olaf ohonoch farw yn yr anialwch.
34
Am ddeugain mlynedd, sef blwyddyn am bob un o'r deugain diwrnod y buoch yn ysbo'r wlad, byddwch yn dioddef am eich drygioni ac yn gwybod am fy nigofaint.'
35
Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; byddaf yn sicr o wneud hyn i bob un o'r cynulliad drygionus hwn sydd wedi cynllwyn yn f'erbyn. Y mae'r diwedd ar eu gwarthaf, a byddant farw yn yr anialwch hwn."
36
Felly, am y dynion a anfonodd Moses i ysbo'r wlad, sef y rhai a ddychwelodd 'r adroddiad gwael amdani, a pheri i'r holl gynulliad rwgnach yn ei erbyn,
37
eu tynged oedd marw trwy bla gerbron yr ARGLWYDD.
38
Ond o'r dynion hynny a aeth i ysbo'r wlad, cafodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne fyw.
39
Pan ddywedodd Moses hyn wrth yr holl Israeliaid, dechreuodd y bobl alaru'n ddirfawr.
40
Codasant yn fore drannoeth a dringo i'r mynydd-dir, a dweud, "Edrychwch, awn i fyny i'r lle y dywedodd yr ARGLWYDD amdano; oherwydd yr ydym wedi pechu."
41
Ond dywedodd Moses, "Pam yr ydych yn troseddu yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn llwyddo.
42
Peidiwch mynd i fyny rhag i'ch gelynion eich difa, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gyda chwi.
43
Y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid o'ch blaen, a byddwch yn syrthio trwy fin y cleddyf; ni fydd yr ARGLWYDD gyda chwi, am eich bod wedi cefnu arno."
44
Eto, yr oeddent yn benderfynol o ddringo i'r mynydd-dir, er nad aeth Moses nac arch cyfamod yr ARGLWYDD allan o'r gwersyll.
45
Yna daeth yr Amaleciaid a'r Canaaneaid a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw i lawr yn eu herbyn, a'u herlid hyd Horma.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36