bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 10
Numbers 10
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 11 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith.
3
Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod;
4
ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat.
5
Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith,
6
a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn.
7
Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith.
8
Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau.
9
Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion.
10
Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."
11
Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth,
12
a chychwynnodd pobl Israel yn gwmnau ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran.
13
Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses.
14
Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab.
15
Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar,
16
a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon.
17
Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl.
18
Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur.
19
Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai,
20
a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel.
21
Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd.
22
Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud.
23
Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,
24
a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.
25
Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.
26
Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,
27
a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan.
28
Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn l eu lluoedd.
29
Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, "Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel."
30
Ond atebodd ef, "Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun."
31
Dywedodd Moses, "Paid 'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain.
32
Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt."
33
Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.
34
Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.
35
Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, "Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gasu ffoi o'th flaen."
36
A phan ddi'r arch i orffwys, byddai'n dweud, "Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel."
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36