bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 26
Numbers 26
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
1
Ar l y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad,
2
"Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn l eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel."
3
Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn Jericho ger yr Iorddonen,
4
am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:
5
Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;
6
o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.
7
Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg.
8
Mab Palu: Eliab.
9
Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD;
10
agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn tn, fel rhybudd.
11
Er hyn, ni fu farw meibion Cora.
12
Meibion Simeon yn l eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid;
13
o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid.
14
Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant.
15
Meibion Gad yn l eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid;
16
o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid;
17
o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid.
18
Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.
19
Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.
20
Meibion Jwda yn l eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.
21
Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.
22
Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.
23
Meibion Issachar yn l eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;
24
o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.
25
Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.
26
Meibion Sabulon yn l eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.
27
Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.
28
Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn l eu teuluoedd:
29
Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.
30
Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid;
31
o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid;
32
o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid.
33
Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.
34
Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.
35
Dyma feibion Effraim yn l eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid.
36
Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid.
37
Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn l eu teuluoedd.
38
Meibion Benjamin yn l eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid;
39
o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid.
40
Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid.
41
Dyma feibion Benjamin yn l eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant.
42
Dyma feibion Dan yn l eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn l eu teuluoedd.
43
Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant.
44
Meibion Aser yn l eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid.
45
O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid.
46
Enw merch Aser oedd Sara.
47
Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
48
Meibion Nafftali yn l eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid;
49
o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid.
50
Dyma dylwyth Nafftali yn l eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.
51
Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.
52
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
53
"I'r rhain, yn l nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth.
54
I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn l y nifer sydd ynddo.
55
Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn l enwau llwythau eu hynafiaid.
56
Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain."
57
Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn l eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid.
58
Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram.
59
Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam.
60
I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar;
61
ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu tn halogedig gerbron yr ARGLWYDD.
62
Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.
63
Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn Jericho ger yr Iorddonen.
64
Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai,
65
oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36