bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 3
Numbers 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
1
Dyma ddisgynyddion Aaron a Moses yr adeg y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai.
2
Enwau meibion Aaron oedd: Nadab y cyntafanedig, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
3
Dyma oedd enwau meibion Aaron a eneiniwyd ac a gysegrwyd i wasanaethu fel offeiriaid.
4
Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar dn halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngu373?ydd eu tad Aaron.
5
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6
"Tyrd llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.
7
Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.
8
Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.
9
Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.
10
Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos."
11
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12
"Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,
13
oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD."
14
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
15
"Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn l eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd."
16
Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
17
Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.
18
Dyma enwau meibion Gerson yn l eu tylwythau: Libni a Simei.
19
Meibion Cohath yn l eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.
20
Meibion Merari yn l eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn l eu teuluoedd.
21
O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.
22
Ar l rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.
23
Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu l i'r tabernacl.
24
Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.
25
Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,
26
llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglu375?n 'u gwasanaeth.
27
O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.
28
Ar l rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.
29
Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.
30
Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.
31
Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglu375?n 'u gwasanaeth.
32
Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.
33
O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.
34
Ar l cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.
35
Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.
36
Y Merariaid oedd i ofalu am fframiau'r tabernacl, y barrau, y colofnau, y traed, yr offer i gyd, a phopeth ynglu375?n 'u gwasanaeth;
37
hefyd am golofnau'r cyntedd o amgylch, ynghyd 'r traed, yr hoelion a'r rhaffau.
38
Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a ddi'n agos i'w roi i farwolaeth.
39
Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn l eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.
40
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn l eu henwau.
41
Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD."
42
Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
43
Ar l cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.
44
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45
"Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.
46
Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,
47
cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn l sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;
48
yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion."
49
Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,
50
ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn l sicl y cysegr.
51
Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36