bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 22
Numbers 22
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 23 →
1
Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Jericho yng ngwastadedd Moab, y tu draw i'r Iorddonen.
2
Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid,
3
a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt,
4
a dywedasant wrth henuriaid Midian, "Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes." Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd,
5
ac anfonodd ef genhadau at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd yng ngwlad Amaw ac ar lan yr Ewffrates, a dweud, "Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad, ac y maent bellach gyferbyn mi.
6
Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio."
7
Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r tl am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac.
8
Dywedodd Balaam wrthynt, "Arhoswch yma heno; dychwelaf gair atoch, yn l fel y bydd yr ARGLWYDD wedi llefaru wrthyf." Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam. Yna daeth Duw at Balaam, a gofyn,
9
"Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?"
10
Atebodd Balaam ef, "Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud,
11
'Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.'"
12
Dywedodd Duw wrth Balaam, "Paid mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio."
13
Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, "Ewch yn l i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi."
14
Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, "Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni."
15
Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill.
16
Daethant at Balaam a dweud wrtho, "Dyma a ddywed Balac fab Sippor, 'Paid gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf;
17
fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.'"
18
Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, "Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei du375? o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn.
19
Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf."
20
Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, "Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti."
21
Cododd Balaam drannoeth, ac ar l cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab.
22
Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef,
23
fe welodd yr asen angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a chleddyf yn barod yn ei law; felly trodd yr asen oddi ar y ffordd, ac aeth i mewn i gae. Yna trawodd Balaam hi er mwyn ei throi yn l i'r ffordd.
24
Safodd angel yr ARGLWYDD wedyn ar lwybr yn arwain trwy'r gwinllannoedd, a wal o boptu iddo.
25
Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gwthiodd yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam rhyngddi a'r wal.
26
Felly trawodd Balaam yr asen eilwaith. Yna aeth angel yr ARGLWYDD ymlaen a sefyll mewn lle mor gyfyng fel nad oedd modd troi i'r dde na'r chwith.
27
Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gorweddodd dan Balaam; ond gwylltiodd yntau, a tharo'r asen 'i ffon.
28
Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, "Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?"
29
Atebodd Balaam hi, "Fe wnaethost ffu373?l ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd."
30
Yna gofynnodd yr asen i Balaam, "Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth thi erioed o'r blaen?" Atebodd yntau, "Naddo."
31
Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.
32
Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, "Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen,
33
ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen."
34
Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref."
35
Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, "Dos gyda'r dynion; ond paid dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti." Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.
36
Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon.
37
Dywedodd Balac wrtho, "Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus thi?"
38
Atebodd Balaam ef, "Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau."
39
Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.
40
Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef.
41
Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36