bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 32
Numbers 32
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 33 →
1
Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid,
2
daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud,
3
"Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon,
4
sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg."
5
Yna dywedasant, "Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid gwneud i ni groesi'r Iorddonen."
6
Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, "A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?
7
Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?
8
Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,
9
oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.
10
Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud,
11
'Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob,
12
ar wahn i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.'
13
Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
14
A dyma chwi'n awr yn dilyn eich hynafiaid, yn hil o bobl bechadurus sy'n cyffroi'n fwyfwy ddicter yr ARGLWYDD yn erbyn Israel.
15
Os gwrthodwch ei ddilyn, bydd yn gadael yr holl bobl hyn unwaith eto yn yr anialwch, a chwi fydd wedi eu difa."
16
Yna daethant ato a dweud, "Fe adeiladwn gorlannau yma i'n praidd, a dinasoedd i'n plant;
17
caiff ein plant fyw yn y dinasoedd caerog, yn ddiogel rhag trigolion y wlad, tra byddwn ninnau'n cymryd arfau, yn arwain pobl Israel, ac yn eu tywys i'w lle eu hunain.
18
Ni ddychwelwn adref nes i bob un o'r Israeliaid feddiannu ei etifeddiaeth.
19
Ond ni fyddwn ni'n cymryd etifeddiaeth gyda hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, oherwydd rhoddwyd etifeddiaeth i ni yr ochr yma, o'r tu dwyrain i'r Iorddonen."
20
Dywedodd Moses wrthynt, "Os gwnewch hyn, a chymryd arfau a mynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD,
21
ac os pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan,
22
a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD.
23
Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal.
24
Adeiladwch ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch praidd, a gwnewch yr hyn a addawsoch."
25
Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, "Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.
26
Bydd ein plant a'n gwragedd, ein gwartheg a'n holl anifeiliaid, yn aros yma yn ninasoedd Gilead,
27
ond fe dy weision drosodd o flaen yr ARGLWYDD, pob un yn arfog ar gyfer rhyfel, fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn."
28
Rhoddodd Moses orchymyn ynglu375?n hwy i Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun, ac i bennau-teuluoedd llwythau pobl Israel.
29
Dywedodd Moses wrthynt, "Os tylwyth Gad a thylwyth Reuben gyda chwi dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a phob un ohonynt yn arfog ar gyfer rhyfel, ac os byddant yn darostwng y wlad o'ch blaen, yna rhowch wlad Gilead iddynt yn etifeddiaeth;
30
ond os nad nt drosodd yn arfog gyda chwi, yna cnt etifeddiaeth yn eich plith chwi yng ngwlad Canaan."
31
Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, "Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.
32
Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen."
33
Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.
34
Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,
35
Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,
36
Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.
37
Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,
38
Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.
39
Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.
40
Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.
41
Aeth Jair fab Manasse i gymryd meddiant o bentrefi Gilead, a rhoddodd iddynt yr enw Hafoth-jair.
42
Aeth Noba i gymryd meddiant o Cenath a'i phentrefi, a'i galw'n Noba, ar l ei enw ei hun.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36