bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 12
Numbers 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 13 →
1
Yr oedd gan Miriam ac Aaron gu373?yn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi,
2
a gofynasant, "Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?" A chlywodd yr ARGLWYDD hwy.
3
Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear.
4
Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, "Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod," a daeth y tri ohonynt allan.
5
Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen.
6
Yna dywedodd, "Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau: Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith, datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth, a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
7
Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses; ef yn unig o'm holl du375? sy'n ffyddlon.
8
Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb, yn eglur, ac nid mewn posau; caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD. Pam, felly, nad oedd arnoch ofn cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?"
9
Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.
10
Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.
11
Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, "O f'arglwydd, paid chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffl 'i wneud.
12
Paid gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa."
13
Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, "O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiachu."
14
Atebodd yr ARGLWYDD ef, "Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto."
15
Felly caewyd Miriam allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac ni chychwynnodd y bobl ar eu taith nes iddi ddychwelyd.
16
Yna aethant ymaith o Haseroth, a gwersyllu yn anialwch Paran.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36