bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 18
Numbers 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 19 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Byddi di, dy feibion a'th deulu yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn y cysegr, ond ti a'th feibion yn unig fydd yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn yr offeiriadaeth.
2
Gad i'th frodyr o dylwyth Lefi, sef tylwyth dy dad, ymuno thi a gweini arnat pan fyddi di a'th feibion o flaen pabell y dystiolaeth.
3
Hwy fydd yn gofalu amdanat ac am holl waith y babell, ond nid ydynt i ddynesu at lestri'r cysegr nac at yr allor rhag iddynt hwy, a chwithau, farw.
4
Gad iddynt ymuno thi i oruchwylio holl wasanaeth pabell y cyfarfod, ond paid gadael i neb arall ddod yn agos atat.
5
Chwi eich hunain fydd yn gofalu am waith y cysegr a'r allor, rhag i ddigofaint ddod eto ar bobl Israel.
6
Edrych, yr wyf wedi dewis dy frodyr, y Lefiaid, o blith pobl Israel, a'u rhoi i ti; y maent wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.
7
Fel offeiriaid, yr wyt ti a'th feibion i ofalu am bopeth sy'n ymwneud 'r allor, a phopeth oddi mewn i'r llen; dyna fydd eich gwasanaeth chwi. Yr wyf yn rhoi'r gwasanaeth offeiriadol yn rhodd i chwi, a bydd farw pwy bynnag arall a ddaw'n agos."
8
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy ofal hefyd yr offrymau a gyflwynir imi; yr wyf yn rhoi holl bethau cysegredig pobl Israel i ti ac i'th feibion yn gyfran arbennig am byth.
9
Dyma fydd yn eiddo iti o'r pethau mwyaf cysegredig a arbedwyd rhag y tn: pob offrwm o eiddo'r Israeliaid a gyflwynir imi, yn fwydoffrwm, yn offrwm dros bechod neu'n aberth dros gamwedd; bydd yn gysegredig iawn gennyt ti a'th feibion.
10
Yr wyt i'w fwyta yn y lle mwyaf sanctaidd; caiff pob gwryw fwyta ohono, a bydd yn gysegredig gennyt.
11
Bydd hyn hefyd yn eiddo iti: y rhan a neilltuir o'r holl roddion a gyflwynir gan bobl Israel yn offrymau cyhwfan; fe'i rhoddais i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth; caiff pob un sy'n ln yn dy du375? fwyta ohoni.
12
Rhoddaf iti hefyd y gorau o'r holl olew, gwin ac u375?d a gyflwynir yn flaenffrwyth i'r ARGLWYDD.
13
Bydd holl flaenffrwyth eu tir a gyflwynir i'r ARGLWYDD yn eiddo iti, a chaiff pob un sy'n ln yn dy du375? fwyta ohono.
14
Bydd yr holl bethau diofryd yn Israel hefyd yn eiddo i ti.
15
Bydd y cyntaf a ddaw allan o'r groth ac a offrymir i'r ARGLWYDD, yn ddyn neu anifail, yn eiddo i ti; ond yr wyt i brynu'n l y plentyn cyntafanedig o'r bobl, a'r cyntafanedig o bob anifail aflan.
16
Yr wyt i'w prynu'n l yn fis oed, a thalu'r tl penodedig o bum sicl o arian, yn l sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
17
Ond nid wyt i brynu'n l y cyntafanedig o ych, na dafad na gafr, oherwydd y maent hwy'n gysegredig. Yr wyt i daenellu eu gwaed ar yr allor, a llosgi'r braster yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD;
18
ond bydd eu cig yn eiddo i ti, fel y mae'r frest a chwifir, a'r glun dde, yn eiddo i ti.
19
Rhoddaf i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth yr holl offrymau sanctaidd a gyflwynir gan bobl Israel i'r ARGLWYDD; bydd hyn yn gyfamod halen am byth gerbron yr ARGLWYDD i ti a'th ddisgynyddion gyda thi."
20
Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aaron, "Ni chei di etifeddiaeth yn eu tir na chyfran yn eu mysg; myfi yw dy gyfran di a'th etifeddiaeth ymysg pobl Israel.
21
"Yr wyf yn rhoi yn etifeddiaeth i'r Lefiaid bob degwm yn Israel, yn dl am eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
22
Nid yw'r Israeliaid mwyach i ddynesu at babell y cyfarfod, neu byddant yn atebol am eu pechod ac yn marw.
23
Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,
24
oherwydd fe roddaf yn etifeddiaeth iddynt hwy y degwm a gyflwynir gan bobl Israel yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam y dywedais wrthynt na fydd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith pobl Israel."
25
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
26
"Dywed hefyd wrth y Lefiaid, 'Pan gymerwch gan bobl Israel y degwm a roddais i chwi'n etifeddiaeth, yr ydych i gyflwyno ohono offrwm i'r ARGLWYDD, sef degwm o'r degwm.
27
Fe gyfrifir eich offrwm i chwi fel petai'n u375?d o'r llawr dyrnu neu'n sudd o'r gwinwryf.
28
Felly yr ydych chwithau hefyd i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD o'r holl ddegymau a dderbyniwch gan bobl Israel, ac y mae'r hyn sy'n offrwm i'r ARGLWYDD i'w roi i Aaron yr offeiriad.
29
Yr ydych i offrymu'n offrwm i'r ARGLWYDD y gorau a'r mwyaf sanctaidd o'r cyfan a dderbyniwch.'
30
Dywed wrthynt hefyd, 'Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, cyfrifir y gweddill i'r Lefiaid fel petai'n gynnyrch y llawr dyrnu a'r gwinwryf;
31
cewch chwi a'ch teulu ei fwyta mewn unrhyw le, oherwydd dyma eich tl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32
Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, ni fyddwch yn atebol am unrhyw bechod o'i herwydd, ac ni fyddwch yn halogi pethau cysegredig pobl Israel. Felly, ni fyddwch farw.'"
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36