bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 4
Numbers 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 5 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
2
"Gwna gyfrifiad o'r rhai ymhlith y Lefiaid sy'n feibion Cohath, yn l eu tylwythau a'u teuluoedd,
3
a chynnwys bawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
4
Dyma fydd gwaith meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod: gofalu am y pethau mwyaf cysegredig.
5
Pan fydd yn amser symud y gwersyll, bydd Aaron a'i feibion yn mynd i mewn a thynnu'r gorchudd, a'i daenu dros arch y dystiolaeth;
6
yna byddant yn rhoi gorchudd o grwyn morfuchod drosti, a thros hwnnw liain o sidan sy'n las drwyddo, a gosod y polion yn eu lle.
7
Yna y maent i gymryd lliain arall o sidan glas, a'i daenu dros fwrdd y bara gosod, a rhoi ar y bwrdd y platiau a'r dysglau, y ffiolau a'r costrelau i dywallt y diodoffrwm; bydd y bara yn aros bob amser ar y bwrdd.
8
Y maent i roi drostynt liain o ysgarlad, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.
9
Byddant hefyd yn cymryd lliain glas a gorchuddio'r canhwyllbren sy'n goleuo, ei lampau, ei efeiliau a'i gafnau, a'r holl lestri sy'n dal yr olew ar ei gyfer.
10
Yna rhoddant y canhwyllbren gyda'i holl lestri mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'i osod ar y trosolion.
11
Wedyn byddant yn rhoi lliain glas dros yr allor aur, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.
12
Cymerant yr holl lestri a ddefnyddir yng ngwasanaeth y cysegr, a'u rhoi mewn lliain glas, a rhoi hwnnw mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'u gosod ar y trosolion.
13
Y maent i dynnu'r lludw oddi ar yr allor a'i gorchuddio lliain porffor,
14
cyn gosod arni'r holl lestri a ddefnyddir yn y gwasanaeth, sef y pedyll tn, y ffyrch, y rhawiau, y cawgiau, a holl lestri'r allor; yna rhoddant orchudd o grwyn morfuchod drosti, a gosod y polion yn eu lle.
15
Wedi i Aaron a'i feibion orffen rhoi'r gorchudd dros y cysegr a'i holl ddodrefn, a'r gwersyll yn barod i gychwyn, daw meibion Cohath i'w cludo, ond ni fyddant yn cyffwrdd 'r pethau cysegredig, rhag iddynt farw. Meibion Cohath sydd i gludo'r pethau yn ymwneud phabell y cyfarfod.
16
"Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri."
17
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
18
"Peidiwch gadael i lwyth teuluoedd y Cohathiaid gael eu torri ymaith o blith y Lefiaid.
19
Dyma a wnewch hwy, os ydynt am fyw ac nid marw wrth ddynesu at y pethau mwyaf cysegredig: gadewch i Aaron a'i feibion fynd i mewn a rhoi i bob un ei waith a'i orchwyl;
20
ond nid yw'r Cohathiaid i edrych o gwbl ar y pethau cysegredig, rhag iddynt farw."
21
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
22
"Gwna gyfrifiad hefyd o feibion Gerson, yn l eu tylwythau a'u teuluoedd;
23
yr wyt i gyfrif pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
24
Dyma fydd dyletswydd a gorchwyl teuluoedd y Gersoniaid:
25
cludo llenni'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ei len a'r gorchudd o grwyn morfuchod sydd drosto, y gorchudd sydd dros ddrws pabell y cyfarfod,
26
llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws porth y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl a'r allor; hefyd eu rhaffau, yr holl offer ynglu375?n 'u gwasanaeth, a'r holl waith sy'n gysylltiedig hwy.
27
Bydd holl wasanaeth y Gersoniaid, boed yn gludo neu unrhyw orchwyl arall, dan awdurdod Aaron a'i feibion; eu cyfrifoldeb hwy fydd gofalu am yr holl gludo.
28
Dyma'r gwaith a wna teuluoedd y Gersoniaid ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
29
"Yr wyt i gyfrif meibion Merari yn l eu tylwythau a'u teuluoedd,
30
yn cynnwys pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
31
Dyma fydd eu gwasanaeth hwy ym mhabell y cyfarfod: gofalu am gludo fframiau'r tabernacl, ei farrau, ei golofnau a'i draed,
32
a cholofnau'r cyntedd o amgylch gyda'u traed, eu hoelion a'u rhaffau, a'r holl offer ynglu375?n 'u gwasanaeth; yr ydych i nodi wrth eu henwau y pethau y maent i'w cludo.
33
Fe wna teuluoedd y Merariaid y cyfan ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad."
34
Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr y cynulliad feibion y Cohathiaid yn l eu tylwythau a'u teuluoedd.
35
Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,
36
wedi eu cyfrif yn l eu tylwythau, oedd dwy fil saith gant a phum deg.
37
Dyma nifer yr holl rai o deuluoedd y Cohathiaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn l gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.
38
Dyma nifer y Gersoniaid yn l eu tylwythau a'u teuluoedd:
39
cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,
40
wedi eu cyfrif yn l eu tylwythau a'u teuluoedd, oedd dwy fil chwe chant a thri deg.
41
Dyma nifer y rhai o deuluoedd y Gersoniaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn l gorchymyn yr ARGLWYDD.
42
Dyma nifer teuluoedd y Merariaid yn l eu tylwythau a'u teuluoedd:
43
cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,
44
wedi eu cyfrif yn l eu tylwythau, oedd tair mil a dau gant.
45
Dyma nifer y rhai o dylwythau'r Merariaid a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn l gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.
46
Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr Israel yr holl Lefiaid yn l eu tylwythau a'u teuluoedd.
47
Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i wneud y gwaith a chludo'r pethau ym mhabell y cyfarfod
48
oedd wyth mil pum cant ac wyth deg.
49
Yn l gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses, gosodwyd i bob un ei waith a'i orchwyl, a chyfrifwyd hwy ganddo.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36