bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 15
Numbers 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 16 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i chwi i fyw ynddi,
3
a phan fyddwch yn offrymu o'ch gwartheg neu o'ch defaid offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, boed yn boethoffrwm neu'n aberth cyffredin, boed yn offrwm i gyflawni adduned neu'n offrwm gwirfodd neu'n un a gyflwynir ar eich gwyliau penodedig,
4
yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu chwarter hin o olew;
5
y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.
6
Os offrymir hwrdd, deuer bwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu thraean hin o olew,
7
ac ar gyfer y diodoffrwm deuer thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
8
Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,
9
yna deuer bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu hanner hin o olew,
10
ac ar gyfer y diodoffrwm deuer hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
11
Felly y gwneir phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,
12
pa faint bynnag ohonynt y byddwch yn eu hoffrymu.
13
Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.'
14
"'Os bydd yn eich plith, dros eich cenedlaethau, ddieithriaid neu eraill yn dymuno offrymu offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, y maent i ddilyn yr hyn yr ydych chwi yn ei wneud.
15
Un ddeddf fydd i'r cynulliad ac i'r dieithryn yn eich plith, ac y mae'r ddeddf honno i'w chadw trwy eich cenedlaethau; yr ydych chwi a'r dieithryn yn un gerbron yr ARGLWYDD.
16
Un gyfraith ac un rheol fydd i chwi ac i'r dieithryn a fydd gyda chwi.'"
17
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18
"Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi ichwi ddod i mewn i'r wlad yr wyf yn eich arwain iddi,
19
a bwyta o gynnyrch y tir, yr ydych i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD.
20
Offrymwch deisen wedi ei gwneud o'r toes cyntaf y byddwch yn ei baratoi, a chyflwynwch hi'n offrwm o'r llawr dyrnu.
21
Yr ydych i offrymu i'r ARGLWYDD y cyntaf o'ch toes dros eich cenedlaethau.
22
"'Os byddwch, mewn camgymeriad, heb gadw'r holl orchmynion hyn a roddodd yr ARGLWYDD ichwi trwy Moses,
23
o'r dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD y gorchymyn ymlaen trwy'r cenedlaethau,
24
ac os gwnaethoch hyn yn anfwriadol, a'r cynulliad heb fod yn gwybod amdano, yna y mae'r holl gynulliad i offrymu bustach ifanc yn boethoffrwm, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, gyda'i fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm, a hefyd bwch gafr yn aberth dros bechod, yn unol 'r ddeddf.
25
Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros gynulliad pobl Israel, ac fe faddeuir iddynt am mai mewn camgymeriad y gwnaethant hyn, ac am iddynt ddwyn offrwm trwy dn i'r ARGLWYDD a chyflwyno iddo aberth dros bechod.
26
Fe faddeuir i holl gynulliad pobl Israel ac i'r dieithryn sy'n byw yn eu plith, gan fod pawb yn gyfrifol am y camgymeriad.
27
"'Os bydd unigolyn yn pechu'n anfwriadol, y mae i offrymu gafr flwydd yn aberth dros bechod.
28
Bydd yr offeiriad yn gwneud cymod gerbron yr ARGLWYDD dros yr un a bechodd yn anfwriadol mewn camgymeriad, ac fe faddeuir iddo.
29
Pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth yn anfwriadol, yna yr un gyfraith a weithredir prun bynnag a yw'n frodor o Israel neu'n ddieithryn sy'n byw yn eu plith.
30
Ond pan fydd rhywun yn gweithredu'n rhyfygus, boed yn frodor neu'n ddieithryn, y mae'n cablu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
31
Am iddo ddiystyru gair yr ARGLWYDD a gwrthod cadw ei orchymyn, fe'i torrir ymaith yn llwyr a bydd yn dwyn ei gamwedd arno'i hun.'"
32
Pan oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, gwelsant ddyn yn casglu coed ar y Saboth,
33
ac wedi iddynt ddod ag ef at Moses ac Aaron a'r holl gynulliad,
34
rhoddwyd ef yn y ddalfa am nad oedd yn glir beth y dylid ei wneud ag ef.
35
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Rhodder y dyn i farwolaeth; y mae'r holl gynulliad i'w labyddio y tu allan i'r gwersyll."
36
Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, a bu farw.
37
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
38
"Dywed wrth bobl Israel am iddynt, dros eu cenedlaethau, wneud taselau ar odre eu gwisg, a chlymu ruban glas ar y tasel ym mhob congl.
39
Pan fyddwch yn edrych ar y tasel, fe gofiwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD, ac ni fyddwch yn puteinio trwy fynd ar l y pethau y mae eich calonnau a'ch llygaid yn chwantu amdanynt.
40
Felly fe gofiwch gadw fy holl orchmynion, a byddwch yn sanctaidd i'ch Duw.
41
Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth chwi allan o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chwi; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36