bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Numbers 23
Numbers 23
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 24 →
1
Dywedodd Balaam wrth Balac, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."
2
Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.
3
Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi." Felly aeth ymaith i fryn uchel.
4
Daeth Duw i gyfarfod Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, "Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un."
5
Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, "Dos yn l at Balac, a llefara hyn wrtho."
6
Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.
7
Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud, "Daeth Balac mi o Syria, brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain. 'Tyrd,' meddai, 'rho felltith ar Jacob imi; tyrd, cyhoedda wae ar Israel.'
8
Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio, neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?
9
Fe'u gwelaf o ben y creigiau, ac edrychaf arnynt o'r bryniau pobl yn byw mewn unigedd, heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.
10
Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwch neu rifo chwarter Israel? Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn, a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy."
11
Dywedodd Balac wrth Balaam, "Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio."
12
Atebodd yntau, "Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?"
13
Dywedodd Balac wrtho, "Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi."
14
Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.
15
Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod 'r ARGLWYDD."
16
Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, "Dos yn l at Balac, a llefara hyn wrtho."
17
Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, "Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?"
18
Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud: "Cod, Balac, a chlyw: gwrando arnaf, fab Sippor;
19
nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd, neu fod meidrol yn edifarhau. Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni'r hyn a ddywedodd?
20
Derbyniais orchymyn i fendithio, a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.
21
Ni welodd ddrygioni yn Jacob, ac ni chanfu drosedd yn Israel. Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy, a bloedd y brenin yn eu plith.
22
Daeth Duw hwy allan o'r Aifft, ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.
23
Nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel; yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel, 'Gwaith Duw yw hyn!'
24
Dyma bobl sy'n codi fel llewes, ac yn ymsythu fel llew; nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth ac yfed o waed yr hyn a larpiodd."
25
Dywedodd Balac wrth Balaam, "Paid 'u melltithio na'u bendithio mwyach."
26
Ond atebodd Balaam ef, "Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?"
27
Dywedodd Balac wrth Balaam, "Tyrd, fe af thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno."
28
Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,
29
a dywedodd Balaam wrtho, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."
30
Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36