bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 1
Proverbs 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 2 →
1
Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel
2
i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus,
3
i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
4
i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
5
Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
6
i ddeall dameg a'i dehongliad, dywediadau'r doeth a'u posau.
7
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
8
Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid gwrthod cyfarwyddyd dy fam;
9
bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf.
10
Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid chytuno hwy.
11
Fe ddywedant, "Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
12
fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;
13
fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail;
14
bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd."
15
Fy mab, paid mynd yr un ffordd hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
16
Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed.
17
Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.
18
Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio, ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.
19
Dyma dynged pob un awchus am elw; y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
20
Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd, yn codi ei llais yn y sgwr,
21
yn gweiddi ar ben y muriau, yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.
22
Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion, ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar, ac y cas ffyliaid wybodaeth?
23
Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd, tywalltaf fy ysbryd arnoch, a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.
24
Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb, ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;
25
am i chwi ddiystyru fy holl gyngor, a gwrthod fy ngherydd
26
am hynny, chwarddaf ar eich dinistr, a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,
27
pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt, a dinistr yn taro fel storm, pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.
28
Yna galwant arnaf, ond nid atebaf; fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.
29
Oherwydd iddynt gasu gwybodaeth, a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,
30
a gwrthod fy nghyngor, ac anwybyddu fy holl gerydd,
31
cnt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd, a syrffedu ar eu cynlluniau.
32
Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd, a difrawder y ffyliaid yn eu difa.
33
Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel, yn dawel heb ofni drwg.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31