bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 20
Proverbs 20
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
1
Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.
2
Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc; y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.
3
Clod i bob un yw gwrthod cweryla, ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.
4
Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.
5
Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion, ond gall dyn deallus ei dynnu allan.
6
Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon?
7
Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei l!
8
Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn yn gallu nithio pob drwg 'i lygaid.
9
Pwy a all ddweud, "Yr wyf wedi puro fy meddwl; yr wyf yn ln o'm pechod"?
10
Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
11
Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc a yw ei waith yn bur ac yn uniawn.
12
Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld, yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.
13
Paid bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd; cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.
14
"Gwael iawn," meddai'r prynwr; ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.
15
Y mae digonedd o aur ac o emau, ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
16
Cymer wisg y sawl sy'n mechno dros estron, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
17
Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll, ond yn y diwedd llenwir ei geg graean.
18
Sicrheir cynlluniau trwy gyngor; rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.
19
Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach; paid chyfeillachu 'r llac ei dafod.
20
Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
21
Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau, ni bydd bendith ar ei diwedd.
22
Paid dweud, "Talaf y pwyth yn l"; disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.
23
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau, ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.
24
Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl; sut y gall neb ddeall ei ffordd?
25
Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll, ac yna dechrau ystyried ar l gwneud addunedau.
26
Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.
27
Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl, i chwilio i ddyfnderau eu bod.
28
Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin, a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.
29
Gogoniant yr ifainc yw eu nerth, ac addurn i'r hen yw penwynni.
30
Y mae taro i'r byw yn gwella drwg, a dyrnodiau yn iachu rhywun drwyddo.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31