bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 2
Proverbs 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 3 →
1
Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion,
2
a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3
os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth,
4
a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor
5
yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw.
6
Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7
Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8
Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9
Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda;
10
oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti.
11
Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod,
12
ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus
13
y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch,
14
sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll,
15
y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog.
16
Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17
sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid, ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18
Oherwydd y mae ei thu375? yn gwyro at angau, a'i llwybrau at y cysgodion.
19
Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei l, ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20
Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da, a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21
Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir, a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22
ond torrir y rhai drwg o'r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31