bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 14
Proverbs 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 15 →
1
Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thu375?, ond y ffl yn ei dynnu i lawr 'i dwylo'i hun.
2
Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD, ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu.
3
Yng ngeiriau'r ffl y mae gwialen i'w gefn, ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn.
4
Heb ychen y mae'r preseb yn wag, ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn.
5
Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd, ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau.
6
Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael, ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.
7
Cilia oddi wrth yr un ffl, oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.
8
Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd, ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.
9
Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd, ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.
10
Gu373?yr y galon am ei chwerwder ei hun, ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.
11
Dinistrir tu375?'r drygionus, ond ffynna pabell yr uniawn.
12
Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.
13
Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus, a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.
14
Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun, a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.
15
Y mae'r gwirion yn credu pob gair, ond y mae'r call yn ystyried pob cam.
16
Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae'r ffl yn ddiofal a gorhyderus.
17
Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffl, a chaseir yr un dichellgar.
18
Ffolineb yw rhan y rhai gwirion, ond gwybodaeth yw coron y rhai call.
19
Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda, a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.
20
Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod, ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.
21
Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu, ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
22
Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni, ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?
23
Ym mhob llafur y mae elw, ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.
24
Eu craffter yw coron y doeth, ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.
25
Y mae tyst geirwir yn achub bywydau, ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.
26
Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn, a bydd yn noddfa i'w blant.
27
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth.
28
Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin; ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.
29
Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar, ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.
30
Meddwl iach yw iechyd y corff, ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.
31
Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
32
Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun, ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.
33
Trig doethineb ym meddwl y deallus, ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.
34
Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl, ond pechod yn warth ar bobloedd.
35
Rhydd brenin ffafr i was deallus, ond digia wrth yr un a'i sarha.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31