bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 13
Proverbs 13
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 14 →
1
Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad, ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd.
2
Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un daioni, ond awchu am drais y mae twyllwyr.
3
Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd, ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.
4
Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim, ond y mae'r diwyd yn ffynnu.
5
Y mae'r cyfiawn yn casu twyll, ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.
6
Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir, ond drygioni yn dymchwel y pechadur.
7
Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo; ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.
8
Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth, ond ni chlyw'r tlawd fygythion.
9
Disgleiria goleuni'r cyfiawn, ond diffydd lamp y drygionus.
10
Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio, ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.
11
Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech, ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12
Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon, ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
13
Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor, ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
14
Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth.
15
Y mae deall da yn ennill ffafr, ond garw yw ffordd y twyllwyr.
16
Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus, ond y mae'r ffl yn amlygu ffolineb.
17
Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr, ond cennad cywir yn dwyn lles.
18
Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth, ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.
19
Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas, ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.
20
Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.
21
Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid, ond daioni yw gwobr y cyfiawn.
22
Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant, ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.
23
Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion, ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.
24
Casu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
25
Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon, ond gwag fydd bol y drygionus.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31