bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 23
Proverbs 23
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
1
Pan eisteddi i fwyta gyda llywodraethwr, rho sylw manwl i'r hyn sydd o'th flaen,
2
a gosod gyllell at dy wddf os wyt yn un blysig.
3
Paid chwennych ei ddanteithion, oherwydd bwyd sy'n twyllo ydyw.
4
Paid 'th flino dy hun i ennill cyfoeth; bydd yn ddigon synhwyrol i ymatal.
5
Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu, oherwydd y mae'n magu adenydd, fel eryr yn hedfan i'r awyr.
6
Paid bwyta gyda neb cybyddlyd, na chwennych ei ddanteithion,
7
oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc; bydd yn dweud wrthyt, "Bwyta ac yf", ond ni fydd yn meddwl hynny.
8
Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist, ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.
9
Paid llefaru yng nghlyw'r ffu373?l, oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.
10
Paid symud yr hen derfynau, na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;
11
oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf, a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.
12
Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd, a'th glust ar eiriau deall.
13
Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn; os byddi'n ei guro gwialen, ni fydd yn marw.
14
Os byddi'n ei guro gwialen, byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
15
Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth, bydd fy nghalon innau yn llawen.
16
Byddaf yn llawenhau drwof i gyd pan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
17
Paid chenfigennu wrth bechaduriaid, ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;
18
os felly, bydd dyfodol iti, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
19
Fy mab, gwrando a bydd ddoeth, a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.
20
Paid chyfathrachu 'r rhai sy'n yfed gwin, nac ychwaith 'r rhai glwth;
21
oherwydd bydd y diotwr a'r glwth yn mynd yn dlawd, a bydd syrthni'n eu gwisgo mewn carpiau.
22
Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd, a phaid dirmygu dy fam pan fydd yn hen.
23
Pryn wirionedd, a phaid 'i werthu; pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.
24
Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn, a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.
25
Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd, ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.
26
Fy mab, dal sylw arnaf, a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.
27
Y mae'r butain fel pwll dwfn, a'r ddynes estron fel pydew cul;
28
y mae'n llercian fel lleidr, ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.
29
Pwy sy'n cael gwae? Pwy sy'n cael gofid? Pwy sy'n cael ymryson a chu373?yn? Pwy sy'n cael poen yn ddiachos, a chochni llygaid?
30
Y rhai sy'n oedi uwchben gwin, ac yn dod i brofi gwin wedi ei gymysgu.
31
Paid ag edrych ar win pan yw'n goch, pan yw'n pefrio yn y cwpan, ac yn mynd i lawr yn esmwyth.
32
Yn y diwedd bydd yn brathu fel sarff, ac yn pigo fel gwiber.
33
Bydd dy lygaid yn gweld pethau rhyfedd, a'th feddwl yn mynegi pethau cymysg.
34
Byddi fel un yn mynd i'w wely yng nghanol y mr, fel un yn gorwedd ar ben yr hwylbren.
35
Byddi'n dweud, "Y maent yn fy nharo, ond nid wyf yn teimlo briw; y maent yn fy nghernodio, ond ni wn hynny. Pa bryd y deffroaf, imi geisio cael diod eto?"
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31