bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 19
Proverbs 19
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 20 →
1
Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest na'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd.
2
Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall; y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
3
Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd, ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.
4
Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion, ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.
5
Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.
6
Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig, a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.
7
Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasu; gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho! Y mae'n eu dilyn geiriau, ond nid ydynt yno.
8
Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd, a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9
Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, a difethir yr un sy'n dweud celwydd.
10
Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd, na rheoli tywysogion i gaethwas.
11
Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12
Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc, ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13
Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad, a checru gwraig fel diferion parhaus.
14
Oddi wrth rieni yr etifeddir tu375? a chyfoeth, ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.
15
Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg, ac i'r diogyn daw newyn.
16
Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun, ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.
17
Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dl ef yn l iddo am ei weithred.
18
Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo, ond gofala beidio 'i ladd.
19
Daw cosb ar y gwyllt ei dymer; er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.
20
Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.
21
Niferus yw bwriadau meddwl pobl, ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.
22
Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch, a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.
23
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd, a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.
24
Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl, eto nid yw'n ei chodi at ei enau.
25
Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers; os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth.
26
Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam yn fab gwaradwyddus ac amharchus.
27
Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd, byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28
Y mae tyst anonest yn gwatwar barn, a genau'r drygionus yn parablu camwedd.
29
Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr, a chernodiau i gefn ynfydion.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31