bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 30
Proverbs 30
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 31 →
1
Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:
2
Yr wyf yn fwy anwar na neb; nid oes deall dynol gennyf.
3
Ni ddysgais ddoethineb, ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5
Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6
Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7
Gofynnaf am ddau beth gennyt; paid 'u gwrthod cyn imi farw:
8
symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi 'm dogn o fwyd,
9
rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu, a dweud, "Pwy yw'r ARGLWYDD?" Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr, a gwneud drwg i enw fy Nuw.
10
Paid difro gwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11
Y mae rhai yn melltithio'u tad, ac yn amharchu eu mam.
12
Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain, ond heb eu glanhau o'u haflendid.
13
Y mae rhai yn ymddwyn yn falch, a'u golygon yn uchel.
14
Y mae rhai 'u dannedd fel cleddyfau, a'u genau fel cyllyll, yn difa'r tlawd o'r tir, a'r anghenus o blith pobl.
15
Y mae gan y gele ddwy ferch sy'n dweud, "Dyro, dyro." Y mae tri pheth na ellir eu digoni, ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, "Digon":
16
Sheol, a'r groth amhlantadwy, a'r tir sydd heb ddigon o ddu373?r, a'r tn nad yw byth yn dweud, "Digon".
17
Y llygad sy'n gwatwar tad, ac yn dirmygu ufudd-dod i fam, fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn, ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
18
Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi, pedwar na allaf eu deall:
19
ffordd yr eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong ar y cefnfor, a ffordd dyn gyda merch.
20
Dyma ymddygiad y wraig odinebus: y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg, ac yn dweud, "Nid wyf wedi gwneud drwg."
21
Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear, pedwar na all hi eu dioddef:
22
gwas pan ddaw'n frenin, ffu373?l pan gaiff ormod o fwyd,
23
dynes atgas yn cael gu373?r, a morwyn yn disodli ei meistres.
24
Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach, ond yn eithriadol ddoeth:
25
y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26
y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth, ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27
y locustiaid, nad oes ganddynt frenin, ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28
a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law, ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29
Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad, pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
30
llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid, nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
31
ceiliog yn torsythu; bwch gafr; a brenin yn arwain ei bobl.
32
Os bu iti ymddwyn yn ffl trwy ymffrostio, neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.
33
Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn, o wasgu'r trwyn ceir gwaed, ac o fegino llid ceir cynnen.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31