bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 21
Proverbs 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
1
Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddu373?r; fe'i try i ble bynnag y dymuna.
2
Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
3
Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4
Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
5
Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
6
Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.
7
Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
8
Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll.
9
Gwell yw byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10
Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
11
Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
12
Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar du375?'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
13
Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
14
Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a chil-dwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
15
Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
16
Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
17
Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
18
Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn, a'r twyllwr dros y rhai uniawn.
19
Gwell byw mewn anialwch na chyda gwraig gecrus a dicllon.
20
Yn nhu375?'r doeth y mae trysor dymunol ac olew, ond y mae'r ffl yn eu difa.
21
Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
22
Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.
23
Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod, fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.
24
Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw, gweithreda yn gwbl drahaus.
25
Y mae blys y diog yn ei ladd, am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.
26
Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.
27
Ffiaidd yw aberth y drygionus, yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.
28
Difethir y tyst celwyddog, ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.
29
Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb, ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.
30
Nid yw doethineb na deall na chyngor yn ddim o flaen yr ARGLWYDD.
31
Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr, eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31