bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 8
Proverbs 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
1
Onid yw doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais?
2
Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd, ac yn ymyl y croesffyrdd;
3
Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref, wrth y fynedfa at y pyrth:
4
"Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw, ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais.
5
Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter, a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.
6
Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr, a daw geiriau gonest o'm genau.
7
Traetha fy nhafod y gwir, ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
8
Y mae fy holl eiriau yn gywir; nid yw'r un ohonynt yn u373?yr na thraws.
9
Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus, ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.
10
Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian, oherwydd gwell yw nag aur.
11
Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau, ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu hi.
12
Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter, ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.
13
Ofn yr ARGLWYDD yw casu drygioni; yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais, ffordd drygioni a geiriau traws.
14
Fy eiddo i yw cyngor a chraffter, a chennyf fi y mae deall a gallu.
15
Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.
16
Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod, ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.
17
Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i, ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.
18
Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd, digonedd o olud a chyfiawnder.
19
Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth, a'm cynnyrch yn well nag arian pur.
20
Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder, ar ganol llwybrau barn,
21
a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm cr, a llenwi eu trysordai.
22
"Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith, yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
23
Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell, yn y dechrau, cyn bod daear.
24
Ganwyd fi cyn bod dyfnderau, cyn bod ffynhonnau yn llawn du373?r.
25
Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd, cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
26
cyn iddo greu tir a meysydd, ac o flaen pridd y ddaear.
27
Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle ac yn rhoi cylch dros y dyfnder,
28
pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,
29
pan oedd yn gosod terfyn i'r mr, rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air, a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
30
Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson, yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,
31
yn ymddifyrru yn y byd a greodd, ac yn ymhyfrydu mewn pobl.
32
"Yn awr, blant, gwrandewch arnaf; gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.
33
Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth; peidiwch 'i anwybyddu.
34
Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf, sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws, ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhu375?.
35
Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd, ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;
36
ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun, a phawb sy'n fy nghasu yn caru marwolaeth."
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31