bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 11
Proverbs 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 12 →
1
Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd.
2
Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.
3
Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn, ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.
4
Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.
5
Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.
6
Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn, ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.
7
Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith, a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.
8
Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd, ond fe 'r drygionus dros ei ben iddo.
9
Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog 'i eiriau, ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.
10
Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn, a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.
11
Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn, ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.
12
Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog, ond cadw'n dawel a wna'r deallus.
13
Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach, ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.
14
Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl, ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.
15
Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn, ond y mae'r un sy'n casu mechnaeth yn ddiogel.
16
Y mae gwraig raslon yn cael clod, ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.
17
Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog, ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.
18
Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus, ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.
19
I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd, ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.
20
Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.
21
Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb, ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.
22
Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.
23
Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn, ond diflanna gobaith y drygionus.
24
Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.
25
Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill.
26
Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni u375?d, ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu.
27
Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr, ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn.
28
Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth, ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd.
29
Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ffl yn was i'r doeth.
30
Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd, ond y mae trais yn difa bywydau.
31
Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear, pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31