bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 22
Proverbs 22
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 23 →
1
Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer, a gwell yw parch nag arian ac aur.
2
Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.
3
Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
4
Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5
Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig, ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.
6
Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.
7
Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.
8
Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid, a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.
9
Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.
10
Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson, a diwedd ar ddadlau a gwawd.
11
Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.
12
Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall, ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.
13
Dywed y diog, "Y mae llew y tu allan; fe'm lleddir yn y stryd."
14
Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn; y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.
15
Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.
16
Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun, ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.
17
Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall;
18
oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.
19
Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw ie, i ti!
20
Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall,
21
i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?
22
Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid sathru'r anghenus yn y porth;
23
oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.
24
Paid chyfeillachu neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon,
25
rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.
26
Paid rhoi gwystl, a mynd yn feichiau am ddyledion;
27
os na fydd gennyt ddim i dalu, oni chymerir dy wely oddi arnat?
28
Paid symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid.
29
Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31