bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 28
Proverbs 28
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 29 →
1
Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid, ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.
2
Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr, ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.
3
Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion, fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.
4
Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus, ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.
5
Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
6
Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir, na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.
7
Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu 'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.
8
Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.
9
Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith, bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.
10
Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth; ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.
11
Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun, ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.
12
Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr; ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.
13
Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau, ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.
14
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad; ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.
15
Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro, felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.
16
Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster, ond y mae'r un sy'n casu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.
17
Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed yn ffoi i gyfeiriad y pwll; peidied neb 'i atal.
18
Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel, ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.
19
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
20
Caiff y ffyddlon lawer o fendithion, ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
21
Nid yw'n iawn dangos ffafr, ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.
22
Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth; nid yw'n ystyried y daw arno angen.
23
Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n gwenieithio.
24
Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam, ac yn dweud nad yw'n drosedd, yn gymar i'r un sy'n dinistrio.
25
Y mae'r trachwantus yn creu cynnen, ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.
26
Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
27
Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
28
Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio, ond ar l eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31