bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 29
Proverbs 29
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 30 →
1
Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynych yn cael ei ddryllio'n sydyn heb fodd i'w adfer.
2
Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl, ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan.
3
Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4
Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder, ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.
5
Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaill yn taenu rhwyd i'w draed.
6
Rhwydir y drygionus gan gamwedd, ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.
7
Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion, ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
8
Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas, ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
9
Os un doeth i gyfraith ffu373?l, bydd y ffu373?l yn cythruddo ac yn gwawdio, ac ni cheir llonyddwch.
10
Y mae rhai gwaedlyd yn casu'r un cywir, ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.
11
Y mae'r ffu373?l yn arllwys ei holl ddig, ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
12
Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd, bydd ei holl weision yn ddrygionus.
13
Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr: yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.
14
Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir, yna fe sefydlir ei orsedd am byth.
15
Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb, ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
16
Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu, ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.
17
Disgybla dy fab, a daw chysur iti, a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.
18
Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwl; ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
19
Nid geiriau yn unig y disgyblir gwas; er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.
20
Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad; y mae mwy o obaith i'r ffu373?l nag iddo ef.
21
Wrth faldodi gwas o'i lencyndod, bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.
22
Codi cynnen y mae rhywun cas, ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.
23
Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng, ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24
Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu lleidr; y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25
Magl yw ofni pobl, ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.
26
Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.
27
Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn, a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31