bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Proverbs 15
Proverbs 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 16 →
1
Y mae ateb llednais yn dofi dig, ond gair garw yn cynnau llid.
2
Y mae tafod y doeth yn clodfori deall, ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.
3
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man, yn gwylio'r drwg a'r da.
4
Y mae tafod tyner yn bren bywiol, ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.
5
Diystyra'r ffl ddisgyblaeth ei dad, ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.
6
Y mae llawer o gyfoeth yn nhu375?'r cyfiawn, ond trallod sydd yn enillion y drygionus.
7
Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth, ond nid felly feddwl y ffyliaid.
8
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus, ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.
9
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus, ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.
10
Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd, a bydd y sawl sy'n casu cerydd yn trengi.
11
Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD; pa faint mwy feddyliau pobl?
12
Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd; nid yw'n cyfeillachu 'r doethion.
13
Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb, ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.
14
Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth, ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.
15
I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus, ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.
16
Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD na chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.
17
Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad, nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.
18
Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen, ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.
19
Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri, ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.
20
Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad, ond y mae'r ffl yn dilorni ei fam.
21
Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr, ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.
22
Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori, ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.
23
Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb, a beth sy'n well na gair yn ei bryd?
24
Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus, i'w droi oddi wrth Sheol isod.
25
Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tu375?'r balch, ond yn diogelu terfynau'r weddw.
26
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg, ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo.
27
Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei du375?, ond y sawl sy'n casu cil-dwrn yn cael bywyd.
28
Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb, ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.
29
Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus, ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.
30
Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon, a newydd da yn adfywio'r corff.
31
Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywyd yn aros yng nghwmni'r doeth.
32
Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasu ei hun, ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.
33
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31