bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 1
Revelation 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 2 →
1
Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo, i ddangos i’w weision y pethau sydd a rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder; ac hyspysodd, gan ddanfon trwy Ei angel,
2
i’w was Ioan, yr hwn a dystiolaethodd am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, am gymmaint o bethau ag a welodd.
3
Dedwydd yw ’r hwn sy’n darllain, a’r rhai sy’n clywed geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd wedi eu hysgrifenu ynddi hi, canys yr amser sydd agos.
4
Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn Dyfod, ac oddiwrth y saith Yspryd y sydd ger bron Ei orsedd-faingc;
5
ac oddiwrth Iesu Grist, yr Hwn yw y Tyst ffyddlawn, Cyntafanedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I’r Hwn sydd yn ein caru, ac a’n rhyddhaodd o’n pechodau trwy Ei waed;
6
a gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad Ef; Iddo Ef bydded y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
7
Wele, dyfod y mae gyda’r cymmylau; a’i weled Ef fydd i bob llygad, ac i’r rhai a’i gwanasant Ef; a galaru Trosto fydd i holl lwythau’r ddaear. Ië; Amen.
8
Myfi yw’r Alpha a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn Dyfod, yr Hollalluog.
9
Myfi Ioan, eich brawd a chyd-gyfrannog yn y gorthrymder a ’r deyrnas ac amynedd yn yr Iesu, oeddwn yn ynys a elwir Patmos, o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu.
10
Yr oeddwn yn yr yspryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais o’r tu ol i mi lef fawr fel swn udgorn,
11
yn dywedyd, Yr hyn a weli, ysgrifena mewn llyfr, a danfon ef at y saith eglwys, i Ephesus, ac i Smurna, ac i Pergamus, ac i Thuatira, ac i Sardis, ac i Philadelphia, ac i Laodicea.
12
A throais i weled y llef a lefarai â mi; ac wedi troi, gwelais saith ganhwyllbren aur,
13
ac ynghanol y canhwyllbrennau, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd Ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch Ei fronnau â gwregys aur;
14
ac Ei ben a’i wallt yn wynion fel gwlan gwyn, fel eira;
15
a’i lygaid fel fflam dân; ac Ei draed yn debyg i Chalcolibanus, fel wedi eu llosgi mewn ffwrn; ac Ei lais fel swn dyfroedd lawer;
16
ac a Chanddo yn Ei law ddehau saith seren; ac allan o’i enau, cleddyf dau-finiog llym oedd yn dyfod; ac Ei wynebpryd fel y mae’r haul yn disgleirio yn ei nerth.
17
A phan welais Ef, syrthiais wrth Ei draed, fel marw; a rhoddodd Efe Ei law ddehau arnaf, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw’r Cyntaf a’r Diweddaf,
18
ac yr Hwn sydd fyw, ac aethum yn farw, ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd; a Chenyf y mae agoriadau marwolaeth a Hades.
19
Ysgrifena, gan hyny, y pethau a welaist, ac y pethau y sydd, ac y pethau y sydd ar fedr digwydd ar ol hyn;
20
dirgelwch y saith seren y rhai a welaist yn Fy llaw ddehau, a’r saith canhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt; a’r saith ganhwyllbren, y saith eglwys ydynt.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22