bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 16
Revelation 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
1
A chlywais lais mawr o’r deml yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan y saith phiol llid Duw i’r ddaear.
2
Ac aeth y cyntaf ymaith a thywalltodd allan ei phiol i’r ddaear: ac aeth hi yn gornwyd drwg a blin ar y dynion oedd a chanddynt nod y bwystfil, a’r rhai a addolent ei ddelw.
3
A’r ail a dywalltodd allan ei phiol i’r môr; ac yr aeth hi yn waed fel yr eiddo dyn marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y pethau yn y môr.
4
A’r trydydd a dywalltodd allan ei phiol i’r afonydd a’r ffynhonnau dyfroedd; ac yr aeth hi yn waed.
5
A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, Y Sanctaidd, gan mai’r pethau hyn a fernaist;
6
Canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan, A gwaed a roddaist iddynt hwy i’w yfed. Haeddu y maent.
7
A chlywais yr allor yn dywedyd, Ië, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw Dy farnau.
8
A’r pedwerydd a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul;
9
a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân: a phoethwyd dynion â phoethder mawr; a chablasant enw Duw, yr Hwn sydd a Chanddo y gallu ar y plaau hyn; ac nid edifarhasant i roi Iddo ogoniant.
10
A’r pummed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd-faingc y bwystfil, ac aeth ei deyrnas yn dywylledig: a chnoisant eu tafodau gan y boen,
11
a chablasant Dduw’r nef o herwydd eu poenau ac o herwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddiwrth eu gweithredoedd.
12
A’r chweched a dywalltodd allan ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr fel y parottoid ffordd y brenhinoedd sydd o godiad haul.
13
A gwelais yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau y gau-brophwyd, dri yspryd aflan fel llyffaint,
14
canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, y rhai sy’n myned allan ar frenhinoedd y ddaear oll, i’w casglu hwy i ryfel dydd mawr Duw, Yr Hollalluog.
15
(Wele, dyfod yr wyf fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n gwylied, ac yn cadw ei ddillad, fel nad yn noeth y rhodio, a gweled o honynt ei anharddwch.)
16
A chasglodd hwynt i’r lle a elwir yn Hebraeg, Har-Magedon.
17
A’r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llais mawr allan o’r deml oddiwrth yr orsedd-faingc, yn dywedyd, Darfu:
18
a bu mellt a lleisiau a tharannau; a daear-gryn mawr a fu, y fath na fu er’s pan fu dynion ar y ddaear, gymmaint daear-gryn, mor fawr:
19
ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babulon fawr a gofiwyd ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwin digofaint Ei lid:
20
a phob ynys a ffodd, a mynyddoedd ni chafwyd;
21
a chenllysg mawr, oddeutu pwys talent yr un, a ddisgynasant o’r nef ar ddynion; a chablodd dynion Dduw am bla’r cenllysg, canys mawr oedd eu pla, yn dra-mawr.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22