bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 9
Revelation 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 10 →
1
A’r pummed angel a udganodd, a gwelais seren o’r nef, wedi syrthio ar y ddaear; a rhoddwyd iddo agoriad pydew affwys:
2
ac agorodd efe bydew affwys, ac esgynodd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr; a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew;
3
ac allan o’r mwg y daeth locustiaid ar y ddaear; a rhoddwydd iddynt allu, fel y mae gallu gan ysgorpionau’r ddaear;
4
a dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y dynion y sydd heb ganddynt sel Duw ar eu talcennau:
5
a rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond iddynt gael eu poeni bum mis; a’u poen oedd fel poen ysgorpion pan darawo ddyn.
6
Ac yn y dyddiau hyny y cais dynion farwolaeth, ac ni chânt mo’ni; a chwennychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddiwrthynt.
7
A dulliau y locustiaid oeddynt debyg i feirch wedi eu parottoi i ryfel; ac ar y pennau yr oedd fel pe bai coronau tebyg i aur; a’u gwynebau fel gwynebau dynion:
8
ac yr oedd ganddynt wallt fel gwallt gwragedd: a’u dannedd fel yr eiddo llewod oeddynt;
9
ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn, a swn eu hadenydd oedd fel swn cerbydau, o feirch lawer yn rhedeg i ryfel;
10
ac yr oedd ganddynt gynffonau tebyg i ’scorpion-au, a cholynnau; ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis;
11
a throstynt y mae ganddynt yn frenhin angel affwys, a ’r enw iddo yw yn Hebraeg, Abadon; ac yn y Roeg, yr enw Apoluon sydd iddo.
12
Y wae gyntaf a aeth heibio; wele, dyfod y mae etto ddwy wae ar ol hyn.
13
A’r chweched angel a udganodd, a chlywais lais o gyrn yr allor aur,
14
yr hon sydd ger bron Duw, yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd a chanddo yr udgorn, Gollwng yn rhydd y pedwar angel y sydd wedi eu rhwymo wrth yr afon fawr Euphrates.
15
A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddynt wedi eu parottoi am yr awr a diwrnod a mis a blwyddyn, fel y lladdent y traian o ddynion.
16
A rhifedi lluoedd y gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynnau: clywais eu rhifedi.
17
Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt a chanddynt lurigau o liw tân a lliw huacinth a lliw brwmstan; a phennau’r meirch, fel pennau llewod; ac allan o’u safnau y mae tân yn dyfod, a mwg, a brwmstan.
18
A chan y tri phla hyn y llâs traian dynion, gan y tan a’r mwg a’r brwmstan a oedd yn dyfod allan o’u safnau;
19
canys gallu’r meirch, yn eu safnau y mae, ac yn eu cynffonnau, canys eu cynffonnau oeddynt debyg i seirph; a chanddynt bennau; ac â hwynt y niweidiant.
20
A’r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y plaau hyn, nid edifarhasant oddiwrth weithredoedd eu dwylaw fel nad addolent gythreuliaid a’r eulunod aur ac arian a phres a maen a phren, y rhai ni allant na gweled na chlywed na rhodio.
21
Ac nid edifarhasant oddiwrth eu llofruddiaethau, nac oddiwrth eu swyn-gyfareddion, nac oddiwrth eu godineb, nac oddiwrth eu lladradau.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22