bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 6
Revelation 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 7 →
1
A gwelais, pan agorodd yr Oen un o’r saith sel, a chlywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel swn taran, Tyred;
2
a gwelais, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo fwa: a rhoddwyd iddo goron; ac aeth allan yn gorchfygu, ac fel y gorchfygai.
3
A phan agorodd yr ail sel, clywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a daeth allan farch arall, un coch;
4
ac i’r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd cymmeryd heddwch o’r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.
5
A phan agorodd y drydedd sel, clywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred; ac edrychais, ac wele farch du; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo glorian yn ei law;
6
a chlywais fel pe bai llais ynghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Choinics o wenith er denar, a thri choinics o haidd er denar; a’r olew a’r gwin, na wna niweid iddynt.
7
A phan agorodd y bedwaredd sel, clywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred;
8
a gwelais, ac wele, farch gwelw-las; a’r hwn oedd yn eistedd arno, yr enw iddo oedd Marwolaeth; ac Hades a ganlynai gydag ef; a rhoddwyd iddo awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf ac â newyn ac â marwolaeth a thrwy fwystfilod y ddaear.
9
A phan agorodd y bummed sel, gwelais tan yr allor eneidiau y rhai a laddesid oblegid gair Duw ac oblegid y dystiolaeth oedd ganddynt;
10
a gwaeddasant â llais mawr, gan ddywedyd, Hyd pa hyd, Feistr, y Sanctaidd a Gwir, nad wyt yn barnu, ac yn cymmeryd dialedd ein gwaed ar y rhai sy’n trigo ar y ddaear?
11
A rhoddwyd iddynt, i bob un, laes-wisg wen; a dywedwyd wrthynt orphwys etto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd ar fedr eu lladd, fel y cawsent hwythau hefyd.
12
A gwelais pan agorodd y chweched sel, a daear-gryn mawr a ddigwyddodd, a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew,
13
a’r lleuad i gyd a aeth fel gwaed, a ser y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae ffigys-bren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan gan wynt mawr yr ysgydwir;
14
a’r nef a roddwyd heibio fel ysgrif-rol, pan y’i torchir; a phob mynydd ac ynys o’u lleoedd y’u symmudwyd;
15
a brenhinoedd y ddaear, a’r pennaethiaid, a’r milwriaid, a’r goludogion, a’r rhai cedyrn, a phob caethwas a gŵr rhydd, a guddiasant eu hunain yn y gogfeydd ac ynghreigiau y mynyddoedd;
16
a dywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni oddiwrth wyneb yr Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lid yr Oen,
17
canys daeth dydd mawr eu llid, a phwy a eill sefyll?
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22