bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 12
Revelation 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 13 →
1
Ac arwydd mawr a welwyd yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad tan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren;
2
ac yn feichiog; a gwaeddi y mae mewn gwewyr, ac mewn poen i esgor.
3
A gwelwyd arwydd arall yn y nef, ac wele ddraig goch fawr, a chanddi saith pen a deg corn, ac ar ei phennau saith meitr;
4
a’i chynffon sy’n tynu traian ser y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd ger bron y wraig ar fedr esgor, fel, pan esgorai, ei phlentyn y bwyttai.
5
Ac esgorodd hi ar fab, gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haiarn. A chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at Ei orsedd-faingc;
6
a’r wraig a ffodd i’r anialwch, lle y mae ganddi yno le a barottowyd oddiwrth Dduw, fel yno y porthent hi fil a deucant a thrugain o ddyddiau.
7
A digwyddodd rhyfel yn y nef; Michael a’i angylion a aethant i ryfela â’r ddraig; a’r ddraig a ryfelodd, ac ei hangylion;
8
ac ni orfuant, a’u lle ni chafwyd mwyach yn y nef.
9
A bwriwyd y ddraig fawr i lawr, yr hen sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sy’n arwain ar gyfeiliorn y byd oll; bwriwyd hi i’r ddaear; ac ei hangylion, ynghyda hi, a fwriwyd.
10
A chlywais lais mawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a’r gallu a theyrnas ein Duw, ac awdurdod Ei Grist, canys bwriwyd i’r llawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo ger bron ein Duw ddydd a nos;
11
a hwy a orchfygasant ef o herwydd yr Oen, ac o herwydd gair eu tystiolaeth; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.
12
O herwydd hyn ymhyfrydwch, y nefoedd a’r rhai sy’n trigo ynddynt hwy. Gwae’r ddaear a’r môr, canys disgynodd diafol attoch; a chanddo lid mawr, gan wybod mai ychydig amser sydd ganddo.
13
A phan welodd y ddraig y bwriwyd hi i’r ddaear, erlidiodd y wraig a esgorodd ar y gwrryw,
14
a rhoddwyd i’r wraig ddwy aden yr eryr mawr, fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle, lle y porthir hi yno am amser ac amseroedd a hanner amser, oddiwrth wyneb y sarph.
15
A bwriodd y sarph o’i safn, ar ol y wraig, ddwfr fel afon, fel y gwnai iddi ei dwyn gan yr afon.
16
A chymmorth a roes y ddaear i’r wraig; ac agorodd y ddaear ei genau, a llyngcodd yr afon yr hon a fwriodd y ddraig o’i safn.
17
A llidodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi, y rhai sy’n cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu; a safodd ar dywed y môr.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22