bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 18
Revelation 18
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
1
Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod fawr; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant.
2
A gwaeddodd â llais cadarn, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwfa i bob yspryd aflan, ac yn gadwfa i bob aderyn aflan ac atgas:
3
canys gan win llid ei phutteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd; a brenhinoedd y ddaear gyda hi a butteiniasant; a marchnattawyr y ddaear, trwy allu ei thrythyllwch yr aethant yn oludog.
4
A chlywais lais arall o’r nef, yn dywedyd, Deuwch, Fy mhobl, allan o honi, fel na byddoch gydgyfrannogion o’i phechodau,
5
ac fel o’i phlaau na dderbynioch, canys cyrhaeddodd ei phechodau hyd y nef, a chofiodd Duw ei hanghyfiawnderau:
6
telwch iddi fel y bu iddi hi dalu; a dyblwch y ddwbl yn ol ei gweithredoedd; yn y cwppan a gymmysgodd hi, cymmysgwch iddi yn ddau-ddyblyg:
7
cymmaint ag y gogoneddodd ei hun ac y trythyllodd, y cymmaint arall rhoddwch iddi o boen a galar; canys yn ei chalon y dywedodd, Eistedd yr wyf yn frenhines, a gweddw nid wyf,
8
a galar nis gwelaf ddim: o herwydd hyn, mewn un dydd y daw ei phlaau, marwolaeth a galar a newyn; ac â thân y llosgir hi, canys cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr Hwn a’i barnodd:
9
a gwylo a galaru drosti a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai gyda hi a butteiniasant ac a drythyllasant, pan edrychont ar fwg ei llosgiad,
10
yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoeniad, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, Babulon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth ei barn.
11
A marchnattawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti, canys eu llong-lwyth nid oes neb yn prynu mwyach,
12
llong-lwyth o aur ac arian a maen gwerthfawr a pherlau a lliain main a phorphor a sidan ac ysgarlad; na phob coed citron, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawroccaf ac o bres ac o haiarn ac o faen marmor,
13
a chinnamon ac amomon a pher-aroglau ac ennaint a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith ac ysgrubliaid a defaid; nac o feirch a cherbydau a chaeth-weision;
14
nac eneidiau dynion: a chynhauaf dymuniad dy enaid di a aeth ymaith oddiwrthyt, ac mwyach ni chânt mo honynt.
15
Marchnattawyr y pethau hyn, y rhai a aethant yn oludog ganddi, o hirbell y safant gan ofn ei phoeniad,
16
yn gwylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main a phorphor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur a maen gwerthfawr a pherl:
17
canys mewn un awr yr amddifadwyd y golud mor fawr. A phob llong-lywydd, a phob un yn hwylio i neb rhyw le, a llongwyr, a chynnifer ag ar y môr y mae eu gorchwyl,
18
o hirbell y safasant, a gwaeddasant wrth edrych ar fwg ei llosgiad gan ddywedyd, Pa ddinas sydd debyg i’r ddinas fawr?
19
A bwriasant lwch ar eu pennau, a gwaeddasant dan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yn yr hon y cyfoethogwyd yr holl rai a chanddynt eu llongau ar y môr, o herwydd eu gwerthfawrogrwydd, canys mewn un awr yr amddifadwyd hi.
20
Ymhyfryda drosti, o nef, a’r seintiau a’r apostolion a’r prophwydi, canys barnodd Duw eich barnedigaeth ganddi.
21
A chododd un angel cadarn faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y bwrir Babulon, y ddinas fawr, ac ni cheir mo’ni mwyach;
22
a llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir mo’no ynot mwyach; a phob celfyddwr, o bob celfydd, ni cheir mo’no ynot mwyach; a swn maen melin ni chlywir mo’no ynot mwyach;
23
a llewyrch llusern ni lewyrcha mo’no ynot mwyach; a llais priodas-fab a phriodas-ferch ni chlywir mo’no ynot mwyach; canys dy farchnattawyr oeddynt bennaethiaid y ddaear; canys trwy dy swyn-gyfaredd ar gyfeiliorn y dygpwyd yr holl genhedloedd.
24
Ac ynddi hi gwaed prophwydi a saint a gafwyd, ac eiddo’r oll a laddwyd ar y ddaear.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22