bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 13
Revelation 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
1
A gwelais, o’r môr bwystfil a ddaeth i fynu, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg meitr, ac ar ei bennau enwau cabledd.
2
A’r bwystfil, yr hwn a welais, oedd debyg i lewpard, a’i draed fel yr eiddo arth, a’i safn fel safn llew; a rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr;
3
ac un o’i bennau fel wedi ei archolli hyd farwolaeth; a’i bla marwol a iachawyd,
4
a rhyfeddodd yr holl ddaear ar ol y bwystfil, ac addolasant y ddraig o herwydd rhoddi o honi ei hawdurdod i’r bwystfil; ac addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? a phwy a fedr ryfela ag ef?
5
A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion, a chableddau; a rhoddwyd iddo awdurdod i aros ddau fis a deugain;
6
ac agorodd ei enau er cabledd yn erbyn Duw, i gablu Ei enw a’i dabernacl, sef y rhai, yn y nef y mae eu trigfa.
7
A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint ac eu gorchfygu; a rhoddwyd iddo awdurdod dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl;
8
ac ei addoli ef a wnaiff pawb y sy’n trigo ar y ddaear, yr hwn nad ysgrifenwyd ei enw yn llyfr bywyd yr Oen yr Hwn a laddwyd o seiliad y byd.
9
Os yw neb a chanddo glust, gwrandawed.
10
Os yw neb i gaethiwed, i gaethiwed y cilia; os â chleddyf y lladd neb, y mae rhaid iddo ef gael â chleddyf ei ladd. Yma y mae amynedd a ffydd y saint.
11
A gwelais fwystfil arall yn dyfod i fynu o’r ddaear; a chanddo yr oedd dau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig:
12
ac awdurdod y bwystfil cyntaf, y cwbl, a arfera efe yn ei wydd, a gwneud y mae i’r ddaear a’r rhai sy’n trigo ynddi, addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei bla marwol;
13
a gwneuthur arwyddion mawrion y mae, fel y gwna i dân o’r nef ddisgyn ar y ddaear yngwydd dynion:
14
ac ar gyfeiliorn yr arwain y rhai sy’n trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion y rhai y rhoddwyd iddo eu gwneuthur yngwydd y bwystfil, gan ddywedyd wrth y rhai sy’n trigo ar y ddaear, wneuthur delw i’r bwystfil y sydd a chanddo bla’r cleddyf a byw o hono.
15
A rhoddwyd iddo roi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil, ac y parai i gymmaint ag nad addolent ddelw’r bwystfil, gael eu lladd:
16
a gwneud y mae i bawb, y bychain a’r mawrion, ac y goludogion a’r tlodion, ac y rhyddion a’r caethion, i roddi iddynt nod ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau;
17
ac na allo neb brynu na gwerthu, oddieithr yr hwn sydd a chanddo y nod, enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw.
18
Yma y mae’r doethineb. Yr hwn sydd a chanddo ddeall, rhifed rifedi’r bwystfil, canys rhifedi dyn yw; a’i rifedi yw chwe chant a thrugain a chwech.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22