bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 22
Revelation 22
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
1
A dangosodd i mi afon o ddwfr bywyd, disglair fel crusial, yn dyfod allan o orsedd-faingc Duw a’r Oen, ynghanol ei llydanfa;
2
ac ar yr ochr hon i’r afon; ac ar yr ochr accw, bren y bywyd yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth; a dail y pren er iachad y cenhedloedd.
3
A phob rhyw felldith ni fydd yno mwyach: a gorsedd-faingc Duw a’r Oen, ynddi y bydd;
4
a’i weision a wasanaethant Ef, ac a welant Ei wyneb; a’i enw fydd yn eu talcennau.
5
A nos ni fydd mwyach; a rhaid nid oes iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul, canys yr Arglwydd Dduw a oleua arnynt; a theyrnasant yn oes oesoedd.
6
A dywedodd wrthyf, Y geiriau hyn, ffyddlawn a gwir ydynt; a’r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd Ei angel i ddangos i’w weision y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder.
7
Ac wele, dyfod yr wyf ar frys. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n cadw geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn.
8
Ac myfi, Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn.
9
A dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych: cydwas â thi yr wyf, ac â’th frodyr y prophwydi, ac â’r rhai sy’n cadw geiriau y llyfr hwn. Duw addola.
10
A dywedodd wrthyf, Na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn; canys yr amser sydd agos.
11
Yr hwn sy’n gwneuthur anghyfiawnder, gwnaed anghyfiawnder etto; a’r hwn sydd frwnt, brwnt y’i gwneler etto; a’r hwn sydd gyfiawn, cyfiawnder a wnaed; a’r sanctaidd, sancteiddier etto.
12
Wele, dyfod yr wyf ar frys, a’m gwobr sydd gyda Mi, i dalu i bob un fel y mae ei waith.
13
Myfi, Yr Alpha ac Yr Omega wyf y cyntaf a’r diweddaf, y dechreu a’r diwedd.
14
Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu gwisgoedd, fel y bo iddynt awdurdod i ddyfod at bren y bywyd, a thrwy’r pyrth ddyfod i mewn i’r ddinas.
15
Oddi allan y mae’r cwn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r godinebwyr, a’r llofruddion, a’r eulunaddolwyr, a phob un y sy’n caru, ac yn gwneuthur, celwydd.
16
Myfi, Iesu, a ddanfonais Fy angel i dystiolaethu wrthych y pethau hyn er yr eglwysi. Myfi wyf Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore ddisglair.
17
Ac Yr Yspryd ac Y Briodas-ferch sy’n dywedyd, Tyred. A’r hwn sy’n clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd a syched arno, deued; a’r hwn sy’n ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhad.
18
Tystiolaethu yr wyf Fi i bob un y sy’n clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn. Os rhyw un a rydd atto, rhydd Duw atto ef y plaau ysgrifenedig yn y llyfr hwn;
19
ac os rhyw un a dỳn ymaith oddiwrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, tỳn Duw ymaith ei ran oddiwrth bren y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, y rhai a ysgrifenwyd yn y llyfr hwn.
20
Dywedyd y mae’r hwn sy’n tystiolaethu y pethau hyn, Ië; dyfod yr wyf ar frys. Amen. Tyred, Arglwydd Iesu.
21
Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda’r saint. Amen. diwedd
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22