bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 17
Revelation 17
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 18 →
1
A daeth un o’r saith angel oedd a chanddynt y saith phiol, a llefarodd â mi gan ddywedyd, Tyred yma; dangosaf i ti farnedigaeth y buttain fawr sydd yn ei heistedd ar ddyfroedd lawer,
2
gyda’r hon y putteiniodd brenhinoedd y ddaear, a meddwyd y rhai sy’n trigo ar y ddaear gan win ei phutteindra;
3
a dug fi ymaith i’r anialwch yn yr Yspryd; a gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn orlawn o enwau cabledd, a chanddo saith ben a deg corn;
4
a’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac ysgarlad, a’i gwychu ag aur a maen gwerthfawr a pherlau, a chanddi gwppan aur yn ei llaw, yn orlawn o ffieidd-derau a phethau aflan ei phutteindra,
5
ac ar ei thalcen enw yn ysgrifenedig, Dirgelwch Babulon fawr, mam putteiniaid a ffieidd-derau’r ddaear.
6
A gwelais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu; a rhyfeddais, wrth ei gweled, â rhyfeddod mawr.
7
A dywedodd yr angel wrthyf, Paham y rhyfeddaist? Myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig, ac yr eiddo’r bwystfil sydd yn ei dwyn, yr hwn sydd a chanddo y saith ben a’r deg corn:
8
y bwystfil yr hwn a welaist, a fu ac nid yw; ac y mae ar fedr dyfod i fynu o affwys, ac i ddistryw fyned; a rhyfedda y rhai sy’n trigo ar y ddaear, y rhai ni ’sgrifenwyd eu henw yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, wrth weled o honynt y bwystfil, o herwydd y bu, ac nad yw, ac y daw.
9
Yma y mae’r deall y sydd a chanddo ddoethineb. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle y mae’r wraig yn eistedd arnynt; a saith brenhin ydynt;
10
pump a syrthiasant, un sydd; y llall nid yw etto wedi dyfod, a phan ddelo, am ychydig amser y mae rhaid iddo ef aros.
11
Ac y bwystfil, yr hwn a fu ac nid yw; efe hefyd, wythfed yw, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned.
12
A’r deg corn, y rhai a welaist, deg brenhin ydynt, y rhai, teyrnas hyd yn hyn ni dderbyniasant, eithr awdurdod, megis brenhinoedd, am un awr y maent yn ei dderbyn ynghyda’r bwystfil.
13
Y rhai hyn sydd ag un meddwl ganddynt, ac eu gallu a’u hawdurdod i’r bwystfil a roddant; y rhai hyn, â’r Oen y rhyfelant;
14
a’r Oen a’u gorchfyga, gan mai Arglwydd arglwyddi yw, a Brenhin brenhinoedd; a’r rhai ynghydag Ef, galwedigion ac etholedigion a ffyddloniaid ydynt.
15
A dywedodd wrthyf, Y dyfroedd y rhai a welaist, lle y mae’r buttain yn ei heistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd.
16
A’r deg corn, y rhai a welaist, a’r bwystfil, y rhai hyn a gasant y buttain, ac yn amddifad y’i gwnant hi, ac yn noeth; a’i chnawd a fwyttant; a hi ei hun a losgant â thân;
17
canys Duw a roddodd yn eu calonnau wneuthur ei meddwl, a gwneuthur un meddwl, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni orphener geiriau Duw.
18
A’r wraig, yr hon a welaist, yw’r ddinas fawr y sydd a chanddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22