bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 21
Revelation 21
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
1
A gwelais nef newydd a daear newydd; canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aethant ymaith; a’r môr nid yw mwyach.
2
Ac y ddinas sanctaidd, yr Ierwshalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddiwrth Dduw, wedi ei pharottoi fel priodas-ferch wedi ei haddurno i’w gŵr.
3
A chlywais lais mawr o’r orsedd-faingc, yn dywedyd, Wele, dabernacl Duw gyda dynion, a thabernacla Efe gyda dynion; a hwy, Ei bobl a fyddant; a Duw Ei hun, gyda hwynt y bydd, eu Duw;
4
a sych Efe ymaith bob deigr o’u llygaid, ac marwolaeth ni fydd mwyach; na galar, na gwaedd, na phoen ni fydd mwyach: y pethau cyntaf a aethant ymaith.
5
A dywedodd yr Hwn yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, Wele, yn newydd yr wyf yn gwneuthur pob peth. A dywedodd, Ysgrifena, canys yr hyn eiriau, ffyddlawn a gwir ydynt.
6
A dywedodd wrthyf, Digwyddasant. Myfi, yr Alpha a’r Omega, y dechreu a’r diwedd wyf, Myfi, i’r hwn sydd a syched arno y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.
7
Yr hwn sy’n gorchfygu a etifedda’r pethau hyn; a byddaf iddo yn Dduw, ac efe fydd i Mi yn fab:
8
ond i’r rhai ofnog a digred a ffiaidd a llofruddion a swyn-gyfareddwyr ac eulunaddolwyr, ac i’r holl gelwyddwyr, eu rhan fydd yn y llyn sy’n llosgi â thân a brwmstan; yr hyn yw’r ail farwolaeth.
9
A daeth un o’r saith angel oedd a chanddynt y saith phiol, a oedd wedi eu llwytho â’r saith bla diweddaf; a llefarodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, dangosaf i ti y briodas-ferch, gwraig Yr Oen;
10
a dug fi ymaith, yn yr yspryd, i fynydd mawr ac uchel; a dangosodd i mi y ddinas sanctaidd, Ierwshalem, yn disgyn o’r nef oddiwrth Dduw,
11
a chanddi ogoniant Duw: ei disgleirdeb oedd debyg i faen gwerthfawroccaf, fel pe bai i faen iaspis crustalaidd-glir;
12
a chanddi fur mawr ac uchel; a chanddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifenu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth meibion Israel:
13
o du’r dwyrain yr oedd tri phorth; ac o du’r gogledd dri phorth; ac o du’r dehau, dri phorth; ac o du’r gorllewin, dri phorth.
14
A mur y ddinas oedd a chanddo ddeuddeg sylfaen; ac arnynt ddeuddeg enw deuddeg apostolion Yr Oen.
15
A’r hwn yn llefaru â mi oedd a chanddo fesur, corsen aur, i fesuro’r ddinas a’i phyrth a’i mur.
16
A’r ddinas sy’n gorwedd yn bedair-ongl; a’i hyd yn gymmaint a’i lled. A mesurodd efe y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ’stadau: ei hyd a’i lled a’i huchder yn ogymmaint;
17
a mesurodd ei mur yn gant a phedwar cufudd a deugain, yn ol mesur dyn,
18
hyny yw, yr eiddo angel: ac adeilad ei mur oedd iaspis; a’r ddinas yn aur pur tebyg i wydr pur;
19
sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf yn iaspis; yr ail, yn sapphir; y trydydd, yn chalcedon; y pedwerydd, yn smaragdus;
20
y pummed, yn sardonyx; y chweched, yn sardius; y seithfed, yn chrisolithus; yr wythfed, yn ferul; y nawfed, yn dopasion; y degfed, yn chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, yn huacinthus; y deuddegfed, yn amethustus.
21
A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; pob un o’r pyrth oedd o un perl. A llydanfa’r ddinas, aur pur oedd, fel gwydr tryloyw.
22
A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, ei theml yw; ac Yr Oen.
23
A’r ddinas nid oes rhaid iddi wrth yr haul, nac wrth y lleuad, fel y disgleiriont iddi; canys gogoniant Duw a’i goleuodd, ac ei llusern yw Yr Oen.
24
A rhodia y cenhedloedd trwy ei goleuni; a brenhinoedd y ddaear sy’n dwyn eu gogoniant i mewn iddi.
25
Ac ei phyrth ni chauir ddim y dydd, (canys nos nid oes yno.)
26
A dygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd i mewn iddi;
27
ac nid â i mewn iddi er dim neb rhyw beth aflan, na’r hwn sy’n gwneuthur ffieidd-dra a chelwydd; neb oddieithr y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr bywyd Yr Oen.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22