bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 2
Revelation 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
1
At angel yr eglwys yn Ephesus, ysgrifena, Hyn a ddywaid yr Hwn sy’n dal y saith seren yn Ei law ddehau, yr Hwn sy’n rhodio ynghanol y saith ganhwyllbren aur,
2
Gwn dy weithredoedd, a’th lafur, a’th amynedd; ac na elli oddef drwg-ddynion; ac y profaist y rhai sy’n galw eu hunain yn apostolion, ac nid ydynt, ac y cefaist hwynt yn gelwyddog;
3
a bod amynedd genyt; ac y goddefaist o achos Fy enw, ac na flinaist.
4
Eithr y mae Genyf yn dy erbyn mai dy gariad cyntaf a adewaist.
5
Cofia, gan hyny, o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a’r gweithredoedd cyntaf gwna; ac onite, dyfod attat yr wyf; a symmudaf dy ganhwyllbren allan o’i le, onid edifarhai.
6
Eithr hyn sydd genyt, dy fod yn casau gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf Finnau hefyd yn eu casau.
7
Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I’r hwn sy’n gorchfygu, y rhoddaf iddo fwytta o Bren y Bywyd, yr hwn sydd ym mharadwys Dduw.
8
Ac at angel yr eglwys yn Smurna ysgrifena, Hyn a ddywaid Y Cyntaf a’r Diweddaf, yr Hwn a fu farw ac a fu fyw,
9
Gwn dy orthrymder a’th dlodi (eithr goludog wyt,) a’r cabledd oddiwrth y rhai sy’n dywedyd mai Iwddewon ydynt, ac nid ydynt, eithr sunagog Satan ydynt.
10
Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, ar fedr taflu rhai o honoch i garchar y mae diafol, fel y’ch profer; a bydd arnoch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti goron y bywyd.
11
Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sy’n gorchfygu, ni niweidir ddim gan yr ail farwolaeth.
12
Ac at angel yr eglwys yn Pergamus ysgrifena, Hyn a ddywaid yr Hwn sydd a Chanddo y cleddyf dau-finiog llym,
13
Gwn pa le y trigi, sef lle y mae gorsedd-faingc Satan; a dal yn dỳn Fy enw yr wyt, ac ni wedaist Fy ffydd hyd yn oed yn y dyddiau yr oedd Antipas Fy nhyst, Fy ffyddloniad, yr hwn a laddwyd yn eich plith, lle y mae Satan yn trigo.
14
Eithr y mae Genyf yn dy erbyn ychydig bethau, gan fod genyt yno rai yn dal dysgad Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwytta pethau a aberthwyd i eulunod, ac i odinebu.
15
Felly yr wyt tithau hefyd a chenyt rai yn dal dysgad y Nicolaiaid yn y cyffelyb fodd.
16
Edifarha, gan hyny; onite, dyfod attat yr wyf ar frys; a rhyfelaf yn eu herbyn a chleddyf Fy ngenau.
17
Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I’r hwn sy’n gorchfygu y rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig; a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ’sgrifenu, yr hwn nid oes neb yn ei adnabod oddieithr yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18
Ac at angel yr eglwys yn Thuatira, ysgrifena, Hyn a ddywaid Mab Duw, yr Hwn sydd a’i lygaid fel fflam dân,
19
a’i draed yn debyg i Chalcolibanus, Gwn dy weithredoedd, a’th gariad, a’th ffydd, a’th weinidogaeth, a’th amynedd; a’th weithredoedd diweddaf ydynt amlach na’r rhai cyntaf.
20
Eithr y mae Genyf yn dy erbyn dy fod yn gadael i’r wraig Iezabel, yr hon sy’n galw ei hun yn brophwydes, a dysgu y mae ac yn arwain ar gyfeiliorn Fy ngweision i odinebu a bwytta pethau a aberthwyd i eulunod.
21
A rhoddais iddi amser i edifarhau; ac nid ewyllysia edifarhau oddiwrth ei godineb.
22
Wele, ei bwrw yr wyf ar wely; ac y rhai sy’n godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhant oddiwrth ei gweithredoedd hi.
23
Ac ei phlant a laddaf â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai Myfi yw’r Hwn sy’n chwilio arennau a chalonnau: a rhoddaf i chwi, i bob un, yn ol eich gweithredoedd.
24
Ond wrthych chwi y dywedaf, y lleill y sydd yn Thuatira, cynnifer ag nad oes ganddynt y dysgad hwn, y rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch bwys arall.
25
Er hyny, yr hyn sydd genych, deliwch yn dỳn hyd oni fyddaf wedi dyfod.
26
Ac yr hwn sy’n gorchfygu ac yn cadw Fy ngweithredoedd hyd y diwedd, rhoddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd;
27
ac eu bugeilio a wna efe â gwialen haiarn, fel y mae’r llestri pridd yn cael eu chwilfriwio,
28
fel y derbyniais Innau hefyd gan Fy Nhad; a rhoddaf iddo y seren fore.
29
Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22