bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 4
Revelation 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
1
Ar ol y pethau hyn edrychais, ac wele ddrws wedi Ei agoryd yn y nef; a’r llais cyntaf a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, dywedyd o un, Tyred i fynu yma, a dangosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar ol hyn.
2
Yn uniawn yr oeddwn yn yr yspryd: ac, wele, gorsedd-faingc oedd wedi ei gosod yn y nef; ac ar yr orsedd-faingc un yn eistedd.
3
Ac yr Hwn yn Ei eistedd, tebyg oedd, i’ r golwg, i faen iaspir a sardin; ac enfys oedd o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg, i’ r golwg, i smaragdus;
4
ac o amgylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gorsedd-faingc ar hugain; ac ar y bedair gorsedd-faingc ar hugain y gwelais henuriaid yn eu heistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion, ac ar eu pennau goronau aur.
5
Ac o’r orsedd-faingc dyfod allan y mae mellt, a lleisiau, a tharanau. A saith o lusernnau tân oedd yn llosgi o flaen yr orsedd-faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw.
6
Ac o flaen yr orsedd-faingc yr oedd fel pe bai fôr o wydr, tebyg i grustal; ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac o amgylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ol.
7
A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew; a’r ail anifail yn debyg i lo; a’r trydydd anifail a chanddo wyneb fel yr eiddo dyn; a’r pedwerydd anifail yn debyg i eryr yn ehedeg.
8
A’r pedwar anifail, bob un o honynt a chanddo chwech o adenydd, ydynt o amgylch ac oddifewn yn llawn llygaid; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct yw ’r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd ac yr Hwn sydd yn Dyfod.
9
A phan roddo’r anifeiliaid ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd,
10
syrth y pedwar henuriad ar hugain ger bron yr Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac addolant yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau o flaen yr orsedd-faingc,
11
gan ddywedyd, Teilwng wyt, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, canys Tydi a greaist bob peth; ac o herwydd Dy ewyllys yr oeddynt, ac y’u crewyd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22