bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 19
Revelation 19
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
1
Ar ol y pethau hyn clywais fel llais mawr tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Halelwiah! Yr iachawdwriaeth a’r gogoniant a’r gallu,
2
eiddo ein Duw ydynt, canys gwir a chyfiawn yw Ei farnau, canys barnodd y buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phutteindra, canys dialodd waed Ei weision o’i llaw.
3
Ac eilwaith y dywedasant, Halelwiah. Ac ei mwg sy’n myned i fynu yn oes oesoedd.
4
Ac i lawr y syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain, a’r pedwar anifail, ac addolasant Dduw, yr Hwn sydd yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Amen; Halelwiah.
5
A llais oddiwrth yr orsedd-faingc a ddaeth allan, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw, Ei holl weision, y rhai sydd yn Ei ofni, bychain a mawrion.
6
A chlywais fel llais tyrfa fawr, ac fel swn dyfroedd lawer, ac fel swn tarannau cedyrn, yn dywedyd, Halelwiah! canys teyrnasu y mae yr Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog.
7
Llawenychom a gorfoleddom a rhoddom y gogoniant Iddo; canys daeth priodas yr Oen,
8
a’i wraig a’i parottodd ei hun: a rhoddwyd iddi ei gwisgo â lliain main disglair, a phur;
9
canys y lliain main, cyfiawn weithredoedd y saint yw. A dywedodd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i swpper priodas Yr Oen. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn, geiriau gwir Duw ydynt.
10
A syrthiais i lawr o flaen ei draed, i addoli ef; a dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych hyn, canys cydwas â thi yr wyf, ac a’th frodyr y sydd a chanddynt dystiolaeth Iesu. Duw addola: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth.
11
A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn; ac yr Hwn yn eistedd arno yn alwedig Ffyddlawn a Gwir;
12
ac mewn cyfiawnder y barna ac y rhyfela: ac Ei lygaid yn fflam dân; ac ar Ei ben, fitrau lawer; a Chanddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid oedd neb yn ei wybod oddieithr Ef Ei hun;
13
ac wedi Ei wisgo â gwisg wedi ei thaenellu â gwaed; a gelwir Ei enw, Gair Duw.
14
A’r lluoedd y sydd yn y nef a’i canlynent ar feirch gwynion, ac am danynt liain main gwyn a phur.
15
Ac o’i enau dyfod allan y mae cleddyf llym, fel ag ef y tarawai y cenhedloedd; ac Efe a’u bugeilia â gwialen haiarn: ac Efe a sathr gerwyn win llid a digofaint Duw Hollalluog;
16
ac y mae Ganddo ar Ei wisg ac ar Ei forddwyd enw wedi ei ysgrifenu, Brenhin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.
17
A gwelais angel yn sefyll yn yr haul: a gwaeddodd â llais mawr, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg ynghanol y nef, Deuwch; casgler chwi ynghyd i swpper mawr Duw,
18
fel y bwyttaoch gnawd brenhinoedd, a chnawd milwriaid, a chnawd y cedyrn, a chig meirch a’r rhai sy’n eistedd arnynt, a chnawd pawb, rhyddion a chaethion hefyd, bychain a mawrion hefyd.
19
A gwelais y bwystfil a brenhinoedd y ddaear a’u lluoedd wedi eu casglu ynghyd i wneuthur rhyfel â’r Hwn oedd yn eistedd ar y march, ac â’i lu.
20
A chymmerwyd gafael yn y bwystfil, ac ynghydag ef yn y gau-brophwyd yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron, â’r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn y rhai a dderbyniasant nod y bwystfil, a’r rhai oedd yn addoli ei ddelw: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
21
A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr Hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o’i enau Ef; a’r holl adar gawsant eu gwala o’u cnawd.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22