bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 7
Revelation 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
1
Ar ol hyn y gwelais bedwar angel yn sefyll wrth bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar neb rhyw bren.
2
A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sel y Duw Byw; a gwaeddodd â llais mawr wrth y pedwar angel, i’r rhai y rhoddwyd niweidio’r ddaear a’r môr,
3
gan ddywedyd, Na niweidiwch y ddaear, na’r môr, na’r preniau, nes darfod i ni selio gweision ein Duw, ar eu talcennau.
4
A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth meibion Israel:
5
o lwyth Iwdah, ddeuddeng mil wedi eu selio; o Iwyth Reuben, ddeuddeng mil; o lwyth Gad, ddeuddeng mil;
6
o lwyth Asher, ddeuddeng mil; o lwyth Nephthali, ddeuddeng mil; o lwyth Manashsheh, ddeuddeng mil;
7
o lwyth Shimeon, ddeuddeng mil; o lwyth Lefi, ddeuddeng mil; o lwyth Issachar, ddeuddeng mil;
8
o lwyth Sabwlon, ddeuddeng mil; o lwyth Ioseph, ddeuddeng mil; o lwyth Beniamin, ddeuddeng mil wedi eu selio.
9
Ar ol hyn gwelais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ei rhifo ni allai neb, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd a thafodau, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc a cher bron yr Oen, wedi ei gwisgo mewn llaes-wisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw;
10
a gwaeddant â llais mawr, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i’n Duw, yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac i’r Oen.
11
A’r holl angylion oedd yn sefyll o amgylch yr orsedd-faingc a’r henuriaid a’r pedwar anifail; a syrthiasant i lawr o flaen yr orsedd-faingc, ar eu gwynebau, ac addolasant Dduw, gan ddywedyd, Amen.
12
Y fendith a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r nerth a fyddo i’n Duw yn oes oesoedd. Amen.
13
Ac attebodd un o’r henuriaid, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn, wedi eu gwisgo â llaes-wisgoedd gwynion, pwy ydynt; ac o ba le y daethant?
14
A dywedais wrtho, Fy arglwydd, tydi a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai sy’n dyfod allan o’r gorthrymder mawr; a golchasant eu llaes-wisgoedd, a channasant hwynt yngwaed yr Oen;
15
o achos hyn y maent o flaen gorsedd-faingc Duw, ac Ei wasanaethu y maent ddydd a nos yn Ei deml: a’r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc a dabernacla drostynt;
16
ni fydd arnynt newyn mwyach, ac ni fydd arnynt syched mwyach; ac ni thery yr haul er dim arnynt, na dim gwres, canys yr Oen,
17
yr Hwn sydd ynghanol yr orsedd-faingc, a’u bugeilia ac a’u harwain at ffynhonnau dyfroedd bywyd, a Duw a sych ymaith bob deigr oddiwrth eu llygaid.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22