bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Revelation 20
Revelation 20
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 21 →
1
A gwelais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo agoriad affwys a chadwyn fawr yn ei law:
2
a chymmerodd afael yn y ddraig, yr hen sarph, yr hon yw Diafol a Satan; a rhwymodd ef am fil o flynyddoedd,
3
a bwriodd ef i affwys, a chauodd a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y cenhedloedd mwyach hyd oni orphener y fil o flynyddoedd: ar ol hyny y mae rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser.
4
A gwelais orsedd-feingciau, ac eisteddent arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y torrasid eu pennau o herwydd tystiolaeth Iesu, ac o herwydd gair Duw, y rhai nid addolasant y bwystfil nac ei ddelw, ac ni dderbyniasant eu nod ar eu talcen nac ar eu llaw: a buant fyw, a theyrnasasant ynghyda Christ fil o flynyddoedd.
5
Y lleill o’r meirw ni fuant fyw hyd oni orphenwyd y fil o flynyddoedd.
6
Hwn yw’r adgyfodiad cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw ’r hwn sydd a chanddo ran yn yr adgyfodiad cyntaf! Ar y rhai hyn nid yw’r ail farwolaeth a chanddi awdurdod; eithr byddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, a theyrnasant ynghydag Ef fil o flynyddoedd.
7
A phan orphenwyd y mil blynyddoedd, gollyngir Satan yn rhydd o’i garchar;
8
a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu ynghyd i’r rhyfel, y rhai y mae eu rhif fel tywod y môr.
9
Ac aethant i fynu ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a’r ddinas anwyl: a disgynodd tân o’r nef, a bwyttaodd hwynt.
10
A Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’ r bwystfil hefyd a’r gau-brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
11
A gwelais orsedd-faingc fawr wen, a’r Hwn yn Ei eistedd arni, oddiwrth wyneb yr Hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt.
12
A gwelais y meirw, y mawrion a’r bychain, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc; a llyfrau a agorwyd; a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw, o’r pethau oedd wedi eu hysgrifenu yn y llyfrau,
13
yn ol eu gweithredoedd: a rhoddodd y môr y meirw oedd ynddo; a marwolaeth a Hades a roddasant y meirw oedd ynddynt; a barnwyd hwy, bob un, yn ol eu gweithredoedd.
14
A marwolaeth a Hades a fwriwyd i’r llyn o dân.
15
Hon, yr ail farwolaeth yw, y llyn o dân. Ac os rhyw un na chaed wedi ei ysgrifenu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22