bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 1
Romans 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Paul gwas i Iesu Grist, apostol galwedig, wedi ei neillduo i Efengyl Dduw,
2
yr hon a rag-addawodd Efe trwy Ei brophwydi yn yr Ysgrythyrau sanctaidd,
3
am Ei Fab, yr Hwn a aned o had Dafydd yn ol y cnawd,
4
a hyspyswyd yn Fab Duw gyda gallu, yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd,
5
trwy’r Hwn y derbyniasom ras ac Apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn Ei enw Ef:
6
ym mysg y rhai yr ydych chwi hefyd, galwedig gan Iesu Grist;
7
at bawb sydd yn Rhufain, anwyl gan Dduw, galwedigion i fod yn saint; Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
8
Yn gyntaf, diolch yr wyf i’m Duw trwy Iesu Grist oblegid yr oll o honoch, fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd;
9
canys fy nhyst yw Duw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu yn fy yspryd yn Efengyl Ei Fab, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch, bob amser yn fy ngweddïau,
10
yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwyddhynt trwy ewyllys Duw i ddyfod attoch:
11
canys hiraethu yr wyf am eich gweled, fel y cyfrannwyf i chwi ryw ddawn ysprydol fel y’ch cadarnhaer,
12
a hyny yw fel y’m cyd-gysurer ynoch, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.
13
Ac nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, mai llawer gwaith yr arfaethais ddyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn,) fel y byddai rhyw ffrwyth i mi ynoch chwi hefyd, fel yn y cenhedloedd eraill.
14
I Roegwyr a barbariaid hefyd, i ddoethion ac i’ r rhai anneallus hefyd yr wyf ddyledwr;
15
felly o’m rhan i y mae parodrwydd i efengylu i chwi hefyd y rhai ydych yn Rhufain,
16
canys nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, canys gallu Duw yw, er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu,
17
i Iwddew yn gyntaf ac i Roegwr hefyd; canys cyfiawnder Duw, ynddi hi y’i datguddir o ffydd i ffydd, fel yr ysgrifenwyd, “Ond y cyfiawn trwy ffydd a fydd fyw.”
18
Canys datguddir digofaint Duw, o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion y sy’n attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder,
19
canys yr hyn a wybyddir am Dduw, eglur yw ynddynt, canys Duw a’ i heglurodd iddynt.
20
Canys Ei anweledig bethau Ef er’s creadigaeth y byd, yn cael eu canfod yn y pethau a wnaed, a welir yn eglur, yn gystal Ei dragywyddol allu Ef a’i Dduwdod,
21
fel y byddont hwy yn ddiesgus; canys, a hwy yn adnabod Duw, ni ogoneddasant Ef megis Duw na rhoddi diolch, eithr ofer yr aethant yn eu hymresymmiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus.
22
Gan broffesu eu bod yn ddoethion,
23
yn ynfydion yr aethant, a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig ac ehediaid ac anifeiliaid pedwar-carnol ac ymlusgiaid.
24
O herwydd hyny traddododd Duw hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid fel yr ammherchid eu cyrph yn eu plith eu hunain;
25
y rhai a newidiasant wirionedd Duw am gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur tu hwnt i’r Creawdwr, yr Hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen.
26
O achos hyn, traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus, canys eu banywiaid a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian;
27
ac yn y cyffelyb fodd y gwrrywiaid hefyd a adawsant yr arfer anianol o’r fanyw, ac a losgasant yn eu chwennychiad i’w gilydd, gwrrywiaid gyda gwrrywiaid yn gweithredu bryntni; ac y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd rhaid, ynddynt eu hunain a dderbyniant.
28
Ac fel ni chymmeradwyasant fod a Duw ganddynt mewn gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl anghymmeradwy, i wneuthur y pethau nad y’nt weddaidd,
29
wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, anfadrwydd, cybydd-dod, a drygioni; yn orlawn o gynfigen, llofruddiaeth,
30
cynnen, twyll a dryganiaeth; yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn saraus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychymygwyr pethau drwg, yn anufudd i rieni,
31
yn anneallus, yn dorrwyr ammod, heb serch naturiol, yn annhrugarogion;
32
y rhai a deddf Dduw yn adnabyddus ganddynt fod y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn eu gwneuthur hwynt, eithr cyd-foddlonir hwynt hefyd â’r rhai a’u gwnant.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16