bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 11
Romans 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Dywedaf, gan hyny, A fwriodd Duw ymaith Ei bobl? Na atto Duw: canys myfi hefyd, Israeliad wyf, o had Abraham, o lwyth Beniamin.
2
Ni fwriodd Duw ymaith Ei bobl, yr hon a rag-adnabu Efe. Oni wyddoch pa beth ym matter Elias, a ddywaid yr Ysgrythyr, y modd yr erfyn efe ar Dduw yn erbyn Israel,
3
sef “Arglwydd, Dy brophwydi a laddasant hwy; Dy allorau a gloddiasant hwy i lawr; ac myfi a adawyd yn unig; a cheisio fy einioes i y maent.”
4
Eithr pa beth a ddywaid atteb Duw wrtho? “Gadewais i Mi Fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasgant lin i Baal.”
5
Felly, gan hyny, yn yr amser presennol hefyd, gweddill,
6
yn ol etholedigaeth gras, y sydd; ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd, canys pe amgen, gras nid yw mwyach yn ras.
7
Pa beth, gan hyny? Yr hyn y mae Israel yn ei geisio, hyny ni chafodd efe; ond yr etholedigaeth a’i cafodd,
8
a’r lleill a galedwyd, fel yr ysgrifenwyd, “Rhoddes Duw iddynt yspryd trymgwsg, Llygaid fel na welent, A chlustiau fel na chlywent,”
9
hyd y dydd heddyw. A Dafydd a ddywaid, “Bydded eu bwrdd yn fagl ac yn hoenyn, Ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt;
10
Tywyller eu llygaid fel na welont; Ac eu cefn, cydgrymma ef bob amser.”
11
Dywedaf, gan hyny, A dripiasant hwy fel y syrthient? Na atto Duw; eithr trwy eu cwymp, iachawdwriaeth sydd i’r cenhedloedd,
12
er mwyn gyrru eiddigedd arnynt; ac os yw eu cwymp yn olud y byd, ac eu colled yn olud y cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyflawnder?
13
Ac wrthych chwi y cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint ag fy mod i yn apostol y cenhedloedd, fy ngweinidogaeth a ogoneddaf,
14
os rhyw fodd y gyrrwyf eiddigedd ar y rhai ydynt fy nghnawd,
15
ac achub o honof rai o honynt: canys os eu bwrw hwynt ymaith yw cymmod y byd, pa beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw?
16
Ac os yw’ r blaen-ffrwyth yn sanctaidd, y clamp toes hefyd sydd felly; ac os yw’ r gwreiddyn yn sanctaidd, y canghennau hefyd ydynt felly.
17
Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew-wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gydgyfrannog â hwynt o wreiddyn brasder yr olew-wydden y’th wnaethpwyd,
18
nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.
19
Dywedi, gan hyny, Torrwyd ymaith ganghennau, fel y byddai i mi fy impio i mewn.
20
Da. Trwy eu hanghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith; a thydi, trwy dy ffydd yr wyt yn sefyll.
21
Na fydd uchel-fryd, eithr ofna; canys os y canghennau naturiol na fu i Dduw eu harbed, tithau nid arbeda Efe er dim.
22
Gwel, gan hyny, ddaioni a thoster Duw; tua’r rhai a gwympasant, doster; ond tuag attat ti, ddaioni Duw, os parhai yn Ei ddaioni; onite, tithau hefyd a dorrir ymaith;
23
a hwythau hefyd, os na pharhant yn eu hanghrediniaeth, a impir i mewn, canys abl yw Duw i’w himpio hwynt i mewn drachefn.
24
Canys os tydi a dorrwyd allan o’r olew-wydden wyllt wrth naturiaeth, ac yn erbyn naturiaeth y’th impiwyd i mewn i olew-wydden dda, pa faint mwy y bydd i’r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun?
25
Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, rhag i chwi fod yn ddoethion yn eich meddwl eich hun, fod calediad o ran wedi digwydd i Israel nes i gyflawnder y cenhedloedd ddyfod i mewn;
26
ac felly holl Israel fydd gadwedig, fel yr ysgrifenwyd, “Daw allan o Tsion y Gwaredwr, Try ymaith annuwioldeb oddiwrth Iacob;
27
A hwn yw iddynt y cyfammod oddiwrthyf Fi; Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau.”
28
O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi; ond o ran yr etholedigaeth, yn anwyl er mwyn y tadau;
29
canys heb edifeirwch am danynt y mae doniau a galwedigaeth Duw.
30
Canys fel y buoch chwi gynt yn anufudd i Dduw, ond yn awr y trugarhawyd wrthych trwy anufudd-dod y rhai hyn;
31
felly y rhai hyn yn awr a anufuddhasant, fel trwy y drugaredd i chwi y trugarheid wrth y rhai hyn hefyd yn awr;
32
canys cyd-gauodd Duw bawb i anufudd-dod, fel wrth bawb y trugarhai.
33
O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! Mor anchwiliadwy yw Ei farnau, ac anolrheiniadwy Ei ffyrdd!
34
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu gynghorwr Iddo?
35
Neu pwy a rag-roddodd Iddo, ac y telir yn ol iddo?
36
Canys o Hono Ef, a thrwyddo Ef, ac Iddo Ef y mae pob peth! Iddo Ef y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16