bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 2
Romans 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Gan hyny, diesgus wyt, O ddyn, bob un y sy’n barnu, canys yn yr hyn y berni y llall, condemnio ti dy hun yr wyt, canys yr un pethau yr wyt ti y sy’n barnu, yn eu gwneuthur.
2
A gwyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau.
3
Ac a dybi di hyn, O ddyn y sy’n barnu y rhai yn gwneuthur y fath bethau ac yn eu gwneuthur hwynt, y diengi di rhag barn Duw?
4
Ai golud Ei ddaioni a’i ddioddefgarwch, a’i hwyrfrydigrwydd Ef a ddirmygi, gan fod heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys i edifeirwch,
5
ond yn ol dy galedrwydd a’ th galon ddiedifeiriol yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw,
6
yr hwn a dal i bob un yn ol ei weithredoedd,
7
sef i’r rhai sydd trwy amynedd yng ngweithred dda yn ceisio gogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragywyddol;
8
ond i’r rhai cynhenus ac yn anufudd i’r gwirionedd, ond yn ufudd i anghyfiawnder,
9
y bydd digofaint a llid, trallod ac ing ar bob enaid dyn sy’n gweithredu yr hyn sy ddrwg,
10
yr Iwddew yn gyntaf a’ r Groegwr hefyd; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sy’n gweithredu yr hyn sy dda,
11
i’ r Iwddew yn gyntaf a’ r Groegwr hefyd, canys nid oes derbyn gwyneb gyda Duw.
12
Canys cynnifer ag a bechasant heb y Gyfraith, heb y Gyfraith y derfydd am danynt; a chynnifer ag a bechasant tan y Gyfraith, trwy’ r Gyfraith y bernir hwynt,
13
canys nid gwrandawyr y Gyfraith sydd gyfiawn gyda Duw, ond gwneuthurwyr y Gyfraith a gyfiawnheir.
14
Canys pan fo’r cenhedloedd, y rhai sydd heb y Gyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau’r Gyfraith, y rhai hyn, heb y Gyfraith ganddynt,
15
ydynt gyfraith iddynt eu hunain; y rhai sy’n dangos gwaith y Gyfraith wedi ei ysgrifenu yn eu calonnau, eu cydwybod hwy yn cyd-dystiolaethu; a’u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi, yn y dydd pan y barna Duw y pethau cuddiedig gan ddynion,
16
yn ol fy Efengyl, trwy Iesu Grist.
17
A thydi, os Iwddew y’th enwir, ac ymorphwyso o honot ar y Gyfraith,
18
ac yn ymffrostio yn Nuw, ac yn gwybod Ei ewyllys, ac yn darbod y pethau rhagorol, wedi dy ddysgu o’r Gyfraith;
19
yn coelio dy hun yn dywysog i’ r deillion, yn oleuni i’ r rhai mewn tywyllwch, yn ddiwygiwr ynfydion,
20
yn ddysgawdwr y rhai bach; a chenyt ffurf gwybodaeth a’r gwirionedd yn y Gyfraith;
21
yr hwn, gan hyny, wyt yn dysgu arall, ai ti dy hun na ddysgi di? Yr hwn wyt yn pregethu peidio â lladratta, ai lladratta yr wyt?
22
Yr hwn wyt yn dywedyd peidio â godinebu, ai godinebu yr wyt? Yr hwn wyt yn ffieiddio yr eulunod, ai yspeilio temlau yr wyt?
23
Yr hwn, yn y Gyfraith yr ymffrosti, ai trwy droseddiad y Gyfraith y mae Duw yn cael Ei ddianrhydeddu genyt?
24
canys enw Duw, o’ch plegid chwi y’i ceblir ym mhlith y cenhedloedd, fel y mae yn ysgrifenedig.
25
Canys amdorriad yn wir sy’n llesau, os y Gyfraith a wnei; ond os troseddwr y Gyfraith wyt, dy amdorriad a aeth yn ddiamdorriad.
26
Os y diamdorriad, gan hyny, a geidw ddeddfau’r Gyfraith, oni fydd i’w ddiamdorriad ef ei gyfrif yn amdorriad,
27
a barnu o’r diamdorriad y sydd o naturiaeth, pan y Gyfraith a gyflawno efe, di yr hwn, ynghyda’r llythyren ac amdorriaeth, wyt yn droseddwr y Gyfraith?
28
Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iwddew, na’r hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd sydd amdorriad;
29
eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iwddew, ac amdorriad yw amdorriad y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren; clod yr hwn, nid o ddynion y mae, ond o Dduw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16